Cofio Gwilym Prichard

Gwilym Prichard Image copyright Graham Pritchard

Ar y 7 Mehefin bu farw un o brif arlunwyr tirlun Cymru, Gwilym Prichard. Yn dilyn marwolaeth Syr Kyffin Williams yn 2006, roedd yn cael ei ystyried gan lawer fel un o brif beintwyr tirlun Cymru. Dyma deyrnged bersonol ei nai Graham Pritchard i'r athrylith o arlunydd.

'Cofnodi popeth'

Be' dwi'n gofio'n arbennig am f'ewyrth Gwilym Pritchard wrth feddwl yn ôl i 'mhlentyndod, ydy'r barf a'r mop o wallt hir a oedd yn rhan annatod o'i bryd a gwedd trawiadol.

A hwnnw, dros dreiglad y blynyddoedd, yn newid lliw o ddu i arian gloyw, ond eto, heb deneuo o gwbl.

Ychydig eiriau fyddai ganddo i'w dweud fel rheol a Claudia ei wraig fyddai'n gwneud y rhan fwyaf o'r siarad. Ond, mi fyddwn wastad yn ymwybodol o'i lygaid disglair, craff yn dawnsio i bob cyfeiriad, yn sylwi ac yn cofnodi popeth o'i gwmpas.

Roedd yn hollol gytun yng nghwmni ei hunan a doedd o ddim yn hoff o sefyllfaoedd cymdeithasol ar y cyfan.

Mynychais barti penblwydd Claudia'n ddiweddar yn eu cartref gyda chriw o ffrindiau yn Ninbych y Pysgod. Dewisodd Gwilym ddianc i'r traeth gyda'i lyfr sgetsio ac ymddangos ar y diwedd i olchi llestri wedi pawb fynd.

Image copyright Graham Pritchard
Image caption Gwilym Prichard gyda'i wraig Claudia Williams, sydd hefyd yn artist nodedig

Dylanwad natur ar ddau frawd

Brawd iau fy nhad Arthur oedd Gwilym. Magwyd y ddau yn Llanystumdwy, yn feibion i Rhoda a Hugh Pritchard, prifathro ysgol y pentref, pregethwr lleyg ac organydd yr eglwys.

Dwi ddim yn credu i'r gyfundrefn addysg na chonfensiynau cymdeithasol y gymuned bryd hynny gael fawr o ddylanwad ar yr un o'r ddau; ac yn sicr nid ar Gwilym.

Gwylio a gwrando ar fywyd natur eu cynefin y tu allan i'r ysgol a ddarparodd yr addysg sylfaenol a'r dylanwadau cynnar wrth iddynt grwydro glannau'r Dwyfor a'r Dwyfach: llwybrau y ces innau fy nghyflwyno iddynt wrth ymweld â thaid a nain yno.

Image copyright Graham Pritchard
Image caption Gwilym Prichard gyda'i frawd mawr, Arthur

Ac fel mae brodyr, roedd yna gystadlu brwd rhwng y ddau wrth bysgota brithyll a siwyn yn ystod eu plentyndod. Datblygodd yr elfen gystadleuol yn ei thro i'r maes arlunio wrth i'r ddau ohonynt ymgymeryd â'r grefft, gan dynnu coes ar bob cyfle.

Fe gymerodd Gwilym y cam o droi'n arlunydd proffesiynol yn yr 80au wedi blynyddoedd o ddysgu'r pwnc mewn gwahanol sefydliadau.

Mi barhaodd i gynnal dosbarthiadau arlunio, ond y tro hyn, ar liwt ei hun, yn rhydd o unrhyw gyfundrefn.

Yn y cyfamser, roedd fy nhad yn ddigon bodlon parhau gyda'i alwediagaeth fel arolygydd ffyrdd, gan beintio ac arddangos yn ei amser sbâr digonol hyd ei farwolaeth dros ugain mlynedd yn ôl bellach.

Image copyright Graham Pritchard
Image caption Gwilym Prichard. Newidiodd ei gyfenw i Prichard gan fod yna artist arall o'r enw Gwilym Pritchard

Arogl paent a thyrpant

Fy atgofion cynharaf pan oedd y ddau deulu'n byw yn Sir Fôn, yn Llangefni ac yna ym Miwmaris - diwedd y 50au a dechrau'r 60au - oedd yr oglau paent a thyrpant a dreiddiai drwy'r ddau gartref: tiwbiau paent amryliw wedi eu gwasgu, brwsys, palets, cynfasau efo llunia' ar eu hanner a fframiau'n bendramwnwgl ar draws garej na welodd erioed yr un car. Lle anturus iawn i blentyn ifanc.

Fe dreuliodd Gwilym a'r teulu gyfnodau yn byw yn Lloegr, Groeg a Llydaw, gan ddatblygu ei grefft a'i enw ymhellach.

Dychwelodd yntau a Claudia tua pymtheg mlynedd yn ôl i arfordir Sir Benfro i barhau ei berthynas efo'r tirwedd a'r ffermydd, y môr a'r awyr, ond hynny bellach efo mwy nag awgrym o ddylanwad lliwiau'r cyfandir yn ei waith.

Mae'r paent bellach wedi sychu, ond mae'r berthynas hynod a oedd gan Gwilym efo'r tirwedd i'w gweld yn addurno muriau llawer i gartref a sefydliad ar draws Cymru a thu hwnt.

Gallwch glywed teyrnged i Gwilym Prichard yn 'Stiwdio gyda Nia Roberts' ar BBC Radio Cymru

Image copyright Graham Pritchard