Clochemerle Cymru

Fe fydd 'na lawer o ffwdanu'r wythnos hon ynghylch adrefnu llywodraeth leol yng Nghymru gyda Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei map, neu fapiau, hir ddisgwyliedig yn awgrymu sawl cyngor dylai 'na fod a'u hunion ffiniau.

Heb os fe fydd y map yn esgor ar drafodaeth digon bywiog ond gwyddid eisoes bod y Llywodraeth wedi methu a sicrhau cefnogaeth unrhyw wrthblaid i'r cynllun. Fe fydd yn rhaid aros tan ar ôl etholiad 2016 am unrhyw ddeddfwriaeth ac mae'n debyg y bydd hi'n 2020 cyn i unrhyw newid ddod i rym.

Nod yr adrefnu yw sicrhau'r strwythur mwyaf effeithlon i ddarparu gwasanaethau. Mae hynny'n ddigon teg - ond mae 'na gwestiwn arall i'w ofyn ynghylch llywodraeth leol yng Nghymru, cwestiwn ynghylch nifer y cynghorwyr yn hytrach na nifer y cynghorau.

Mae 'na 1,254 o gynghorwyr ar ein cynghorau sirol a bwrdeistrefol - neu un ar gyfer pob 2,742 o bobol. Mae gan yr Alban ar y llaw arall 1,222 o gynghorwyr, llai na sydd yna yng Nghymru, gyda chynghorwyr, ar gyfartaledd, yn cynrychioli 4,270 o bobol.

Er tegwch mae'r gymhareb rhwng nifer y cynghorwyr a'r boblogaeth yn Lloegr yn debycach i'r ffigwr yng Nghymru nac i un yr Alban. Serch hynny mae gan Gymru broblem nad yw'n trafferthu ein cymdogion sef diffyg ymgeiswyr mewn etholiadau lleol.

Yn etholiadau lleol Cymru yn 2012 etholwyd 98 o gynghorwyr yn ddiwrthwynebiad gydag un ward, Bryncrug yng Ngwynedd, yn methu denu'r un ymgeisydd. Yn Lloegr ar yr un diwrnod dim ond pedwar cynghorydd oedd yn ddigon ffodus i gael ei hethol heb ymgeisydd yn eu herbyn.

Ar gyfartaledd ymgeisiodd 3.6 o ymgeiswyr am bob sedd cyngor yn Lloegr. 2.7 yw'r ffigwr gyfatebol yng Nghymru.

Rwy'n meddwl y gall pawb gytuno bod diffyg cystadlu etholiadol yn arwain at lywodraeth leol wan. Does ond angen ystyried hanes cynghorau Môn a Phenfro i ddeall hynny ac ym Môn hefyd cawn ganfod yr ateb.

Gohiriwyd etholiadau lleol Môn yn 2012 a phan gafodd yr ornest ei chynnal flwyddyn yn ddiweddarach roedd nifer y cynghorwyr wedi tocio'n sylweddol a hen wardiau un aelod wedi diflannu. O ganlyniad cafwyd etholiad cystadleuol a thipyn o drefn yn siambr y cyngor yn hytrach na'r siop siafins oedd yno'n flaenorol.

Fe fyddai newid tebyg dros Gymru gyfan yn gymharol hawdd ei gyflwyno ac yn debyg o ddenu cefnogaeth bur eang. Wedi'r cyfan pwy all amddiffyn sefyllfa lle mae gan rai o'n cynghorau mwy o aelodau na'r Cynulliad?

Mae'n rhaid dechrau yn rhywle wrth adrefnu llywodraeth leol ond oes angen map i wneud hynny?