Pedwar yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad Pont-y-pŵl

Mae dynes wedi ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd yn Nhorfaen.

Cafodd tri o bobl eraill eu cludo i'r ysbyty hefyd wedi'r gwrthdrawiad ar yr A472 ger Pont-y-pŵl.

Cafodd Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng Hafodyrynys a Phant-y-gaseg am 13:45 ddydd Mawrth.

Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Pont-y-pŵl a'r B4471 yng Nghrymlyn.