Ymgais record byd beiciau pedair olwyn

Record

Bydd criw o feicwyr yn ceisio torri record y byd ar feiciau arbennig yng ngogledd Cymru ddydd Mercher.

Gobaith aelodau Project ENDURO ydi gosod record newydd am y nifer o fetrau y bydd y criw yn ei ddisgyn ar gefn beiciau mynydd pedair olwyn dros gyfnod o 24 awr.

Mae Project ENDURO wedi ei leoli ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, ac mae'r pedwar aelod fydd yn cymryd rhan yn y sialens gydag anableddau corfforol.

Y pedwar fydd yn mentro i lawr llethrau Antur Stiniog ym Mlaenau Ffestiniog ydi'r athletwr paralympaidd Nathan Stephens, y gyrrwr rasio paraplegaidd Brian Roberts, Simon Powdrill, a rheolwr Project ENDURO, Calvin Williams.

Bydd nifer o feicwyr eraill hefyd yn cefnogi'r tîm yn ystod y digwyddiad.

Bydd y sialens yn cychwyn am hanner dydd, ac yn gorffen am hanner dydd ar ddydd Iau.

Image caption Calvin Williams (chwith), Brian Roberts a Stephen Jenkins (dde).