Cwmni prosesu ieir 2 Sisters: 51 o ddiswyddiadau

2 Sisters, Llangefni
Image caption Safle'r ffatri yn Llangefni, Ynys Môn

Mae cwmni 2 Sisters yn Llangefni, Ynys Môn, wedi dweud y bydd 50 yn llai o ddiswyddiadau.

Bydd 51 o weithwyr parhaol yn colli eu gwaith, gan gynnwys 37 yn wirfoddol.

Ym mis Chwefror fe rybuddiodd y cwmni prosesu ieir y byddai 270 o swyddi dan fygythiad.

Roedd y rhain yn cynnwys 170 o weithwyr asiantaeth sy wedi dod o hyd i waith ar safleoedd eraill y cwmni.

Cyn y newidiadau roedd y safle yn cyflogi 800.