Abertawe i gychwyn y tymor yn erbyn y pencampwyr Chelsea

Ashley Williams (Abertawe), Peter Whittingham (Caerdydd) a Kevin Feely (Casnewydd)

Taith i wynebu'r pencampwyr Chelsea fydd gan Abertawe ar ddiwrnod agoriadol tymor 2015-16 Uwchgynghrair Lloegr ar 8 Awst.

Mi fydd tymor Caerdydd a Chasnewydd yn cychwyn y penwythnos hwnnw hefyd.

Fulham, sy'n cael eu rheoli gan y Cymro Kit Symonds, fydd gwrthwynebwyr cyntaf yr Adar Gleision yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mi fydd Casnewydd oddi cartref yn yr Ail Adran yn erbyn Rhydychen. Dyma fydd gêm gystadleuol gyntaf y rheolwr Terry Butcher wrth y llyw.

Mae'n bosib bydd dyddiadau'r gemau yn newid yn ddibynnol ar ofynion darlledu.

Pedair gêm gyntaf Abertawe:

CHELSEA (oddi cartref, 8 Awst); NEWCASTLE UTD (cartref, 15 Awst); SUNDERLAND (oddi cartref, 22 Awst); MANCHESTER UTD (cartref, 31 Awst)

Pedair gêm gyntaf Caerdydd:

FULHAM (cartref, 8 Awst); QPR (oddi cartref, 15 Awst); BLACKBURN ROVERS (oddi cartref, 18 Awst); WOLVERHAMPTON WANDERERS (cartref, 22 Awst)

Pedair gêm gyntaf Casnewydd:

RHYDYCHEN (oddi cartref, 9 Awst); STEVENAGE (cartref, 15 Awst); HARTLEPOOL UTD (oddi cartref, 18 Awst); LEYTON ORIENT (cartref, 22 Awst)