Terfysgaeth: Dyn o Gaerdydd yn pledio'n euog

Syed Choudhury Image copyright Twitter
Image caption Plediodd Syed Choudhury'n euog yn Llys yr Old Bailey

Mae dyn 19 oed o Gaerdydd oedd yn bwriadu teithio i Syria i ymladd gydag Islamic State wedi pledio'n euog i gyhuddiad o derfysgaeth yn Llys yr Old Bailey.

Cafodd Syed Choudhury, myfyriwr o ardal Grangetown, ei arestio ym mis Rhagfyr y llynedd.

Fe wnaeth y dyn, sy'n wreiddiol o Bradford, gyfaddef paratoi ar gyfer gweithredoedd terfysgol.

Bu Choudhury yn cymryd rhan mewn protest yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf llynedd yn erbyn y gwrthdaro yn Gaza.

Daeth at sylw swyddogion gwrthderfysgaeth gan ei fod yn cario baner yn datgan ei gefnogaeth i IS.

'Anaeddfed'

Yn ôl yr erlyniad, aeth Choudhury ar wefannau gyda gwybodaeth ynglŷn â theithio i Syria ac ar wefan arall o'r enw "10 rheswm i ymuno â ISIS".

Wrth ei gyfweld ar ôl cael ei arestio, dywedodd Choudhury ei fod yn cefnogi IS ac yn fodlon lladd ar eu rhan.

Roedd disgwyl i'w achos gael ei glywed yn yr Old Bailey ddydd Mercher ond plediodd yn euog ar ôl galw'r rheithgor.

Wrth ei amddiffyn, dywedwyd fod Choudhury wedi cael ei ddylanwadu gan ddynion hŷn yn ardal Caerdydd a'i fod yn "anaeddfed".

Rhybuddiodd y barnwr wrth Choudhury i ddisgwyl cyfnod yn y carchar. Mi fydd o'n cael ei ddedfrydu ar 7 Gorffennaf.

Image copyright Thinkstock
Image caption Llys yr Old Bailey