Cwyn am ddiffyg Cymraeg ar Reilffordd yr Wyddfa

Tren

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am Reilffordd yr Wyddfa wedi ei feirniadu am beidio cynhyrchu pamffledi Cymraeg a dwyieithog.

Wrth siarad ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ddydd Mercher, dywedodd Eryl Tomos o Ddyffryn Nantlle ei bod wedi derbyn llenyddiaeth uniaith Saesneg ar ôl archebu tocynnau iddi hi a'i ffrindiau i ymweld â chopa'r Wyddfa.

Fe ffoniodd Mrs Tomos y cwmni i ofyn am fersiwn Gymraeg, ond dywedodd y cwmni nad oedd yn cynhyrchu rhai gan nad oedd galw amdanynt.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod 130,000 o ymwelwyr wedi ymweld â'u gwasanaeth y flwyddyn ddiwethaf, a dim ond "llond dwrn" oedd wedi gofyn am bamffled yn Gymraeg.

'Dim galw'

Esboniodd y llefarydd mewn datganiad i Taro'r Post: "Nid ydym yn cynhyrchu pamffledi Cymraeg na rhai dwyieithog am nad oes galw am ddeunydd yn yr iaith Gymraeg. O'r 130,000 o ymwelwyr wnaeth ymweld â'r Wyddfa'r llynedd, nifer fechan iawn wnaeth ofyn am bamffledi yn yr iaith Gymraeg.

"Mae hyn yn rhywbeth i ni'n edrych arno'n flynyddol, ac ar hyn o bryd, o edrych ar y niferoedd sy'n gofyn am y deunydd yn yr iaith Gymraeg, nid yw'r galw yno.

"O ran y wefan, a'r ffaith ei fod yn uniaith Saesneg, eto o edrych ar ymwelwyr y wefan, does dim galw am gynnwys yn y Gymraeg. Mae'r nifer helaeth o'r ymwelwyr yn dod ar draws y ffin, o dramor, neu'n Ddi-Gymraeg. Yn ogystal, mae'r we wedi ei gwneud hi'n bosib i gyfieithu unrhyw iaith ac felly mae modd gwneud hyn ar-lein.

"Hoffwn ychwanegu bod 90% o'n staff yn siarad Cymraeg ac rydym wedi ymrwymo i roi swyddi a chyfleoedd i'r bobl leol. Rydym yn croesawu unrhyw adborth ynglŷn â'n gwasanaethau ac os gwelwn fod y galw yno am ddeunydd Cymraeg yn y dyfodol yna'n sicr byddwn yn ystyried hyn".

Siom

Dywedodd y cynghorydd lleol, ac aelod o Bartneriaeth Llanberis, Emlyn Baliys ei fod wedi ei siomi gan ymateb y cwmni, er nad oedd wedi ei synnu.

Fe esboniodd: "Mae'r bobl hyn yn rhedeg cwmni sydd yn bwysig yn Llanberis ac nid ydyn nhw'n sylweddoli fod gennym ein hiaith ein hunain yng Nghymru yn ein gwlad ein hunain ac mae'n rhaid i bopeth fod yn ddwyieithog.

"Mae ymwelwyr o wledydd eraill yn hoffi gweld yr iaith leol ac mae'n rhan o hunaniaeth y wlad."

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg wrth Taro'r Post: "Nid yw'r Comisiynydd wedi derbyn cwyn ynglŷn â'r mater yma.

"Ond, os yw unigolion yn anfodlon â diffyg defnydd neu ddiffyg gwasanaeth Cymraeg gan fusnesau, ac yn anfodlon ag ymateb y busnes i'w cwyn, gallant drosglwyddo eu pryderon i'r Comisiynydd."

"Mae gan y Comisiynydd dîm o swyddogion arbenigol sy'n gweithio'n uniongyrchol â busnesau a sefydliadau trydydd sector i'w hannog i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg. Mae gwefan benodol ar gyfer datblygu defnydd o'r Gymraeg ymysg y sefydliadau hyn".

Croeso Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Croeso Cymru: "Er mai penderfyniad unigol gan fusnes yw sut y maent yn defnyddio'r iaith, mae Croeso Cymru yn annog busnesau twristiaeth i ddefnyddio'r iaith ac yr ydym yn awyddus iawn i weld busnesau ledled y wlad yn cynnig Croeso Cymreig i'w cwsmeriaid. Mae yna enghreifftiau gwych o fusnesau twristiaeth ar draws y wlad sydd yn cynnig profiad Cymreig unigryw - ac sydd o'r herwydd yn elwa o hynny'n fasnachol.

"Mae Croeso Cymru wedi bod yn darparu cymorth uniongyrchol i fusnesau i'w helpu i ddarparu naws Gymreig unigryw i'w busnesau drwy gynlluniau hyfforddiant a sesiynau gwybodaeth yn ein sioeau teithiol ac adnoddau a hyfforddiant ar-lein."

Straeon perthnasol