Gemau Ewrop: Medal aur i Jade Jones

Jade Jones Image copyright Getty Images

Mae Jade Jones wedi sicrhau medal aur i dîm Prydain yng nghamp taekwondo yng Ngemau Ewropeaidd yn Baku, Azerbaijan.

Bu'r pencampwr Olympaidd o'r Fflint yn fuddugol o 12-9 yn erbyn Ana Zaninovic o Groatia yn ffeinal y pwysau dan 57 cilogram.

Yr ornest oedd y bedwaredd o'r dydd i Jones, oedd wedi trechu Despina Pilavaki o Gyprus, Edina Kotsis o Hwngari a Nikita Glasnovic o Sweden ar ei ffordd i'r rownd derfynol.

Dyma oedd trydedd medal aur Prydain yn y gemau, yn dilyn llwyddiant Gordon Benson yn y treiathlon a Charlie Maddock yn y taekwondo yn ogystal.

Fe fydd y fedal aur yn cyd-fynd â'r fedal enillodd Jones yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.