Enwau lleoedd Maldwyn

O Gaersws i Groesoswallt, Trefaldwyn i'r Trallwng a Meifod i Fachynlleth - mae nifer o leoedd diddorol yn ardal yr Eisteddfod eleni. Ond faint ydych chi'n ei wybod amdanyn nhw a beth yw'r ystyr tu ôl i'r enwau?

Meifod

Mae 'mei' yn golygu hanner neu canol a 'bod' yn golygu cartref, sef lle i deithwyr gael seibiant dros nos. Awgrym arall yw ei fod yn cynnwys enw mis Mai, a'i fod yn enw ar gartref y byddai pobl yn symud iddo yn ystod Mai. Mae'n debyg fod eglwys wedi bod yn yr ardal ers i Sant Gwyddfarch sefydlu un yn y flwyddyn 550, a bu'n ganolbwynt crefyddol Powys yn yr 8fed ganrif, tra bod Mathrafal, lleoliad yr Eisteddfod, yn ganolbwynt gwleidyddol yr ardal.

Llandinam

Ffurf wreiddiol yr enw oedd Llandynan, sef llan + dinan (caerbychan). O'r pentref hwn yr allfudodd rieni Murray Humphreys (y gangster enwog Murray the Hump) i Chicago ddiwedd yr 1890au.

Machynlleth

Image caption Adeilad Senedd Owain Glyndŵr ym Machynlleth

Ma (maes) + Cynllaith - y tir isel gwastad mae'n siŵr oedd y tir rhwng y dref bresennol a'r afon Dyfi. Ond does yna neb yn gwybod pwy ydi Cynllaith oedd yn berchen arno.

Penfforddlas

Ystyr yr enw yw tir comin uwch ben y ffordd las. Mae'r enw Saesneg ar y pentref - Staylittle - yn llawer mwy anghyffredin. Mae'n debyg fod y gof lleol mor sydyn yn pedoli ceffylau, fel nad oedd angen i neb aros yn hir yno!

Caersws

Caer + Sŵs / Swys. Mae o bosib yn safle caer Rufeining. Yn ôl traddodiad, brenhines oedd Swys, ac enw'r ardal yn wreiddiol oedd Caer Swys Wen. Dim lle i gariadon gwrdd am sws wedi'r cyfan...!

Croesoswallt

Image caption Mae tref Croesoswallt yn Lloegr, ond â chysylltiad agos â Chymru

Dyma'r man lle cafodd croes ei chodi gyda phen y brenin Oswald arni wedi iddo gael ei orchfygu yn 642. Mae'r dref bum milltir o'r ffin â Chymru ac wedi bod yn rhan o Loegr yn swyddogol ers y Deddfau Uno yn 1536. Yng nghanol y dre' mae'r unig siop Gymraeg yn Lloegr!

Y Drenewydd

Mae'r enw yn enghraifft o enw lle Cymraeg sydd wedi deillio o'r enw Saesneg, sef Newtown. Roedd gan y dref enw Cymraeg arall yn wreiddiol - sef Llanfair-yng-Nghedewain - ystyr 'Cedewain' yw tir Cadaw. Mae'r un elfen i'w gweld yn yr enw Betws Cedwain hefyd - daw 'betws' o'r Saesneg bead house sydd yn golygu lle i weddio neu eglwys fach.

Aberhafesb

Dyma ble mae aber yr afon Hafren ac afon Hafesb. Ystyr 'Hafesb' yw afon sy'n sychu, neu yn hesb, yn yr haf. Cafodd Neuadd Aberhafesb ei hadeiladu tua 1675, a hi oedd un o adeiladau brics cynta'r ardal.

Y Trallwng

Image caption Castell Coch, ger tref y Trallwng

Y + tra + llwng sy'n golygu pwll budr neu fan corsiog. Dyma oedd tarddiad yr enw Saesneg - cafodd 'Welsh' ei ychwanegu at 'pool', er mwyn osgoi cymysgu â Poole yn Dorset. Mae hefyd wedi ymddangos fel Le Pool yn y gorffennol.

Llanrhaeadr ym Mochnant

Ystyr 'moch' yn y cyd-destun yma ydi buan neu gyflym. Mae hyn yn awgrymu fod y nant yn ffrydio'n gryf. Yn y dref yma y cyfieithodd William Morgan y Beibl i'r Gymraeg. Mae Pistyll Rhaeadr, tu allan i'r dref, yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.

Llanfyllin

Image copyright Rob McBride
Image caption Cymerodd Goeden Unig Llanfyllin ran mewn cystadleuaeth eleni i ddod o hyd i Goeden Ewropeaidd y Flwyddyn 2015

Llan + Myllin. Efallai mai fersiwn o enw'r sant Gwyddelig Moling yw hwn, a oedd yn byw yn y 7fed ganrif. Fodd bynnag, does yna ddim tystiolaeth ei fod wedi ymweld â Chymru, ond mae'n bosib i rai o'i ddilynwyr ddod yma a sefydlu eglwys yn ei enw. Mae trigolion Llanfyllin wedi bod yn manteisio ar rinweddau iachusol ffynnon Sant Myllin yn y dref ers y chweched ganrif.

Trefaldwyn

Tre + Baldwyn, sef y Norman, Baldwin de Boulers, a oedd yn arglwydd yn yr ardal. Daw'r enw Saesneg ar y dre', Montgomery, o gyfenw blaenllaw yn yr ardal, de Montgomerie. Roger de Montgomerie oedd Iarll cyntaf yr Amwythig.

Mae mwy o luniau o fro'r Eisteddfod i'w gweld yma.

Mwy o straeon a newyddion o'r Eisteddfod Genedlaethol.