Penodi cyfarwyddwr artistig i gwmni dawns

Caroline Finn Image copyright VRENI ARBES
Image caption Caroline Finn

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi penodi cyfarwyddwr artistig newydd, yn dilyn cyfnod o ansicrwydd dros reolaeth y cwmni.

Dywed y cwmni y bydd y ddawnswraig a'r trefnydd coreograffi Caroline Finn yn ymuno gyda phrif weithredwr y cwmni Paul Kaynes er mwyn "cyflwyno gweledigaeth sydd gyda'r gynulleidfa a chymryd rhan yn ganolog i'r cynllun, gyda seiliau busnes cadarn".

Cafodd swydd y cyfarwyddwr artistig ei ail-hysbysebu yn dilyn dileu penodiad y llynedd.

Mae Caroline Finn wedi treulio cyfnodau maith yn gweithio fel dawnswraig lawrydd a threfnydd coreograffi i nifer o gwmniau rhyngwladol yn cynnwys Theatr Tanz Luzerner yn y Swistir, Cross Connection Ballet yn Nenmarc, a'r Ballet Theater ym Munich, yr Almaen.

Fe ennillodd wobr Matthew Bourne am goreograffi newydd yn 2014, ac mae hi wedi gweithio gyda phobl ifanc ym maes dawnsio, gan greu perfformiadau nodedig fel Breaking Light gydag Alan Brooks yng ngogledd Ffrainc.