Aaron Ramsey'n diolch am gefnogaeth i'r Gymraeg

Trydariad Aaron Ramsey Image copyright @aaronramsey

Mae chwaraewr pêl-droed Cymru ac Arsenal, Aaron Ramsey, wedi trydar i ddiolch am y gefnogaeth ar ôl derbyn ymateb chwyrn i neges Gymraeg ar wefan Twitter.

Dydd Llun diwethaf, fe wnaeth Ramsey, aeth i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ger y Coed Duon, drydar llun o'i hun a'i wraig i ddathlu eu pen-blwydd priodas, gyda'r neges "Un flwyddyn heddiw".

Cafodd y neges filoedd o ymatebion, gyda rhai yn ei gyhuddo o fod yn feddw, ac eraill yn galw ei neges yn "gibberish".

Image copyright @aaronramsey
Image caption Roedd Aaron Ramsey yn trydar i ddathlu blwyddyn o briodas i'w wraig
Image copyright @BanterousGooner
Image caption Roedd rhai yn amau bod y seren wedi meddwi, ac eraill yn anymwybodol o fodolaeth y Gymraeg

Dydd Iau, dywedodd yn Saesneg: "Diolch am yr holl drydariadau neis a chefnogol am yr iaith Gymraeg. Falch o'i siarad a byddaf yn parhau i'w ddefnyddio ar Twitter!"

Fe gafodd y neges gannoedd o ymatebion o fewn awr o'i gyhoeddi, gyda nifer yn cefnogi safbwynt y Cymro.

Dywedodd Ifan Morgan Jones bod gan Ramsey "rôl bwysig wrth newid agweddau tuag at yr iaith", tra bod nifer wedi ei annog i ddal ati.

Straeon perthnasol