Dirwy i yrrwr lori am daro pont ger Wrecsam

Lori yn taro pont
Image caption Fe wnaeth y lori, oedd yn cario llwyth trwm, daro yn erbyn y bont am 09:05 fore Iau.

Mae gyrrwr lori achosodd i ffordd a phont rheilffordd gau ger Wrecsam wedi cael dirwy o £100 yn y fan ar lle.

Bu'n rhaid cau'r A5104 ym Mhenyffordd i'r ddau gyfeiriad am nifer o oriau fore Iau ac fe gafodd trenau eu gohirio ar ôl i'r lori fynd yn sownd dan bont.

Mae'r ffordd bellach wedi ailagor ac mae'r trenau rhwng Wrecsam a Shotton yn rhedeg yn ôl i'r arfer.

Fe wnaeth y lori, oedd yn cario llwyth trwm, daro yn erbyn y bont am 09:05 fore Iau.

Roedd rhaid i beirianwyr asesu'r difrod i'r bont cyn iddo gael ei ailagor i drenau.