Carchar am ladrad o'i weithle ei hun gyda chyllell

Adam Mackie Image copyright Wales News Service/Google
Image caption Roedd Adam Mackie wedi bod yn gweithio yn yr archfarchnad Iceland am bum mis

Mae gweithiwr siop wnaeth fygwth staff gyda chyllell yn ystod lladrad o'i weithle ei hun wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd.

Fe wnaeth Adam Mackie, 19, ddal cyllell i wddf ei reolwr cyn i'r sgarff yr oedd yn gwisgo o amgylch ei wyneb ddisgyn yn y digwyddiad yn archfarchnad Iceland, Caerffili.

Fe wnaeth Mackie, o Pen y Cae, Caerffili - oedd wedi gweithio yno am bum mis - gyfaddef y lladrad yn hwyrach.

Cafodd ei garcharu gan y barnwr Thomas Crowther yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher.

Clywodd y llys bod Mackie wedi targedu'r siop ar Heol Caerdydd yng Nghaerffili yn oriau cynnar y bore, yn gwybod mai dim ond ychydig o weithwyr fyddai yno.

Dywedwyd bod Mackie wedi dweud wrth ei reolwr y byddai'n ei anafu gyda'r gyllell os na fyddai £1,000 yn cael ei roi yn ei fag.

Ond fe gafodd ei adnabod pan gafodd rhan o'i wyneb ei ddadorchuddio wrth iddo adael.

Fe gafodd fachgen 15 oed oedd yn helpu Mackie - sydd ddim yn gallu cael ei enwi am resymau cyfreithiol - ei ddedfrydu i ddwy flynedd dan glo a gorchymyn hyfforddiant.