Pencampwriaeth y Siroedd: Morgannwg yn trechu Surrey

Will Bragg Image copyright Getty Images
Image caption Fe sgoriodd Will Bragg 83 o rediadau i helpu Morgannwg tuag at y fuddugoliaeth

Fe lwyddodd Will Bragg a Ben Wright i sgorio hanner cant yr un wrth i Forgannwg gwblhau buddugoliaeth o saith wiced yn erbyn Surrey yn Guilford yn Adran Dau.

Gan ailgychwyn ar 276-8, dim ond un rhediad ychwanegodd Surrey i'w cyfanswm cyn i Graham Wagg gymryd dwy wiced mewn dwy bêl i osod targed o 246 i Forgannwg.

Fe sgoriodd Jacques Rudolph 40 wrth iddo gyfuno â Bragg (83) i sgorio 77 cyn colli wiced.

Wright (68) oedd partner nesaf Bragg, cyn i Colin Ingram sicrhau'r fuddugoliaeth gyda sgôr o 25.

Roedd y fuddugoliaeth yn marcio troad mawr ar gyfer y clwb o Gymru yn dilyn batiad agoriadol da iawn i'r tîm cartref, ond fe lwyddodd Wagg i sgorio 200 ym matiad cyntaf Morgannwg i droi'r gêm i gyfeiriad yr ymwelwyr.

Hon oedd trydedd fuddugoliaeth y sir o'r bron yn y Bencampwriaeth y tymor yma, a'u pumed yn olynol ym mhob cystadleuaeth.

Mi fydd y gêm nesaf ddydd Gwener yn erbyn Essex yn Chelmsford yn y gystadleuaeth ugain pelawd.