Cwest: Merch 14 oed 'wedi bwriadu lladd ei hun'

Seren Bernard Image copyright Dyfed-Powys Police
Image caption Fe wnaeth mam Seren, Sarah Pollock, gwyno i ombwdsman yn dilyn ei marwolaeth

Mae cwest wedi casglu bod merch 14 oed fu farw dan ofal gwasanaethau cymdeithasol "wedi bwriadu lladd ei hun".

Bu farw Seren Bernard, oedd yng ngofal Cyngor Sir Benfro, yn Aberdaugleddau yn 2012.

Dydd Mercher, fe glywodd y cwest bod neges gan weithiwr cymdeithasol yn dweud bod y ferch mewn hwyliau gwael "heb gael ei nodi fel neges frys".

Dywedodd y crwner bod materion o bryder gyda'i gofal, ond nad oedd y rhain wedi achosi na chyfrannu i'w marwolaeth.