Dynodi darganfyddiad yn drysor

trysor Image copyright Robin Maggs

Mae celc canoloesol o dri darn aur a 25 darn arian o Loegr gafodd ei ddarganfod ger Bronington, Wrecsam, wedi cael ei ddynodi'n drysor.

Daw'r ceiniogau o gyfnodau Edward III, Richard II a Harri VI, gyda thair ceiniog o gyfnodau amhenodol.

Cafodd y trysor ei ddarganfod yn 2013 gan Mr Cliff Massey wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel, a chafodd modrwy hefyd ei darganfod gan Mr Massey a Mr Peter Walpole ar 16 Mawrth y llynedd.

Mae'r darnau arian cynharaf, o gyfnodau Edward I neu II (bathwyd rhwng 1280 a 1327) ac Edward III (1327-77) wedi gwisgo'n sylweddol, tra bod ceiniogau Harri VI (1422-61) mewn cyflwr da ar y cyfan. Mae'n ymddangos bod y 28 darn arian yn rhan o un celc.

Mae'r ffaith bod ceiniog o'r 1450au wedi'i chynnwys, ac ysgafnder sawl grôt o'r grŵp newydd, yn awgrymu bod y celc wedi'i golli neu ei guddio wedi 1465.

Rhan arall o'r darganfyddiad oedd modrwy aur addurnol gyda saffir glas cabochon arni. Mae pedwar bachyn yn dal y garreg yn ei lle, ac o amgylch tu allan y fodrwy mae patrwm cerfwedd aur ar ffurf coes planhigyn a dail.

'Hynod o gywrain'

Dywedodd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:

"Mae'r cysylltiad rhwng y fodrwy hon a cheiniogau y gellir eu dyddio yn arwyddocaol i astudiaethau gemwaith, gan ei fod yn caniatáu i ni adeiladu cyd-destun mwy penodol ar gyfer addurno personol yng Nghymru ar ddiwedd yr oesoedd canol.

"Mae'r fodrwy yn un hynod o gywrain, ac o edrych ar ei ffurf a'i harddull, yn dod o'r bymthegfed ganrif - mae'r patrwm dail a'r saffir ar y fodrwy yn debyg iawn i fodrwy arall y cyfeirir ati yn ewyllys John Claymond, llywydd cyntaf Coleg Corpus Christi, Rhydychen (1468-1537).

"Mae hyn yn golygu bod modrwy Bronington yn dod o'r un cyfnod â'r ceiniogau, gafodd eu cuddio wedi 1465 yn ôl y toriadau ar rai o'r ceiniogau."

Mae Amgueddfa Wrecsam wedi datgan diddordeb mewn cael gafael ar y ceiniogau a'r fodrwy aur, gan ddefnyddio arian sydd ar gael i Gymru drwy fenter Collecting Cultures Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd Steve Grenter, Rheolwr Gwasanaethau Treftadaeth yn Amgueddfa Wrecsam:

"Rydym yn awyddus iawn i gaffael y celc hwn, gan mai ychydig o ddeunydd o gyfnod Rhyfeloedd y Rhosod sydd gennym.

"Byddai'r celc hwn yn ychwanegiad sylweddol i'n casgliadau archaeolegol. Gobeithiwn y bydd modd i ni gaffael y darganfyddiad pwysig hwn drwy broject 'Saving Treasures; Telling Stories' Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru.

"Bydd yr amgueddfa hefyd yn chwilio am ffyrdd o gydweithio â grwpiau cymunedol lleol wrth i ni fynd ati i arddangos a dehongli'r trysor."