Pallial: Rheithgor yn dechrau ystyried

Pallial Image copyright Geoff Abbott
Image caption Mae'r saith dyn yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn

Mae'r rheithgor yn yr achos yn erbyn saith o ddynion sy'n wynebu cyhuddiadau o gam-drin plant yng ngogledd Cymru wedi ei anfon adref am y penwythnos, ar ôl dechrau ystyried ei reithfarn ddydd Gwener.

Mae'r saith diffynnydd yn wynebu cyfanswm o 45 o gyhuddiadau hanesyddol.

Cafodd y saith eu cyhuddo yn dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol (NCA) fel rhan o Ymgyrch Pallial.

Dechreuodd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 21 Ebrill eleni.

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud a cham-drin honedig o bump o fechgyn yn ardal Wrecsam yn y 1970au a'r 1980au.

Gorffennodd y Barnwr Rhys Rowlands ei grynodeb o'r achos ac fe aeth y rheithgor allan ychydig wedi 11:30 fore Gwener.

Mae'r saith dyn yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn.

Y saith yw:

  • Mark Grainger (arferai gael ei adnabod fel Gary Cooke), 64 oed o Gaerlŷr - 17 cyhuddiad;
  • David Lightfoot, 72 oed o Ellesmere Port - 8 cyhuddiad;
  • Keith Stokes, 62 oed o Farndon ger Caer - 7 cyhuddiad;
  • Roy Norry, 55 oed o Gei Connah - 8 cyhuddiad;
  • Neil Phoenix, 63 oed o Wrecsam - 1 cyhuddiad;
  • Edward Julian Huxley, 70 oed o Maidenhead - 2 gyhuddiad;
  • Roger Griffiths, 76 oed o Wrecsam - 2 gyhuddiad.

Straeon perthnasol