Cam ymlaen i ganolfan iechyd £5m yn y Fflint

Canolfan Iechyd y Fflint Image copyright BCUHB
Image caption Darluniad posib o ganolfan iechyd newydd y Fflint

Mae canolfan iechyd newydd werth £5m yn Sir y Fflint wedi cael caniatâd cynllunio.

Bydd meddygon teulu, nyrsys, ymwelwyr iechyd a chlinigau cymunedol ymysg y gwasanaethau fydd yn cael eu tynnu at ei gilydd yng Nghanolfan Iechyd y Fflint.

Bydd y cynllun nawr yn symud ymlaen i'r cyfnod olaf o ddylunio er mwyn sicrhau cadarnhad Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i gontractwyr gael eu penodi dros yr haf, ac y bydd y gwaith yn dechrau yn yr hydref.

Daw'r ganolfan yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gau ysbyty gymunedol y dref.

Dywedodd arweinydd clinigol y cynllun, Dr Elizabeth Shaheir, bod hwn yn "ddatblygiad enfawr" i'r ardal.