Treisiwr Gwynedd: 12 mlynedd dan glo

Ian Clifford Jones Image copyright Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn 47 oed o Benygroes wedi ei ddedfrydu i 12 mlynedd yn y carchar am dreisio dynes bump o weithiau.

Roedd Ian Clifford Jones wedi ymosod ar y ddynes dros gyfnod o ddwy flynedd.

Clywodd yr achos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau bod y ddynes yn "arbennig o agored i niwed" a bod Jones wedi ei "thargedu".

Bydd rhaid i Jones gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes.

Straeon perthnasol