Tabanou yn targedu Ewrop gydag Abertawe

Franck Tabanou Image copyright SCFC

Dywed chwaraewr newydd Abertawe, Frank Tabanou, bod gan Abertawe'r gallu i chwarae yn Ewrop.

Mae'r Ffrancwr 26 oed wedi arwyddo i'r Elyrch am £3.6m ar gytundeb tair blynedd o hyd.

Roedd Tabanou yn rhan o dîm St Etienne tymor diwethaf lwyddodd i gyrraedd Cynghrair Europa, ac mae'r amddiffynnwr chwith yn hyderus gall Abertawe wneud hynny hefyd.

"Mi fydda chwarae yng Nghynghrair Europa yn freuddwyd, ond dwi hefyd yn meddwl bod o'n bosibilrwydd," meddai.

"Mae'r safon yn uchel yn yr Uwch Gynghrair felly mi fydd hi'n anodd cyrraedd y safleoedd ar gyfer chwarae yn Ewrop."

Chwaraeodd Abertawe yng Nghynghrair Europa am y tro cyntaf yn nhymor 2014-15 ar ôl ennill Cwpan Capital One o dan Michael Laudrup y tymor blaenorol.

Roedd yr Elyrch un safle i ffwrdd o gyrraedd Ewrop tymor diwethaf. Southampton gymerodd y safle olaf ar gyfer Gynghrair Europa drwy orffen yn seithfed yn yr Uwch Gynghrair, pedwar pwynt o flaen tîm Garry Monk.

Tabanou yw'r ail chwaraewr i arwyddo i Abertawe ers diwedd y tymor, gan ddilyn ymosodwr Ghana Andre Ayew, arwyddodd o Marseille.