Cynhadledd gemau fideo yng Nghaerdydd
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Datblygu gemau fideo yng Nghymru

20 Mehefin 2015 Diweddarwyd 14:25 BST

Daeth arbenigwyr gemau fideo yng Nghymru at ei gilydd yng Nghaerdydd i ddangos eu prosiectau diweddaraf.

Mae'r diwydiant yn ffynnu yng Nghymru, ac yn ôl adroddiad diweddar roedd Caerdydd ymhlith y llefydd gorau ym Mhrydain i ddatblygu gemau fideo.

Alex Humphreys o raglen Ffeil aeth i Sioe Datblygu Gemau Cyfrifiadurol Cymru yn y brifddinas i weld beth fydd ar y farchnad nesaf.