Ymosodiad rhyw ar ferch 17 oed mewn gorsaf reilffordd

Gorsaf rheilffordd Cathays Image copyright Google
Image caption Gorsaf reilffordd Cathays yng Nghaerdydd

Mae'r heddlu trafnidaieth yn ymchwilio i "ymosodiad rhyw difrifol" ar ferch mewn gorsaf rheilffordd yng Nghaerdydd.

Yn ôl yr Heddlu Trafnidiaeth, roedd ymosodiad ar y ferch 17 oed rhwng hanner nos a 00:30 nos Sadwrn, 20 Mehefin, yng ngorsaf Cathays.

Mae ymchwiliad fforensig wedi ei gynnal yn yr orsaf a'r cyffiniau ac mae'r heddlu'n apelio am dystion.

Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Cleland: "Rydyn ni'n ystyried adroddiadau o ymosodiadau rhyw yn faterion difrifol ac yn benderfynol o wneud popeth i ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol.

"Dylai unrhywun oedd wrth ger yr orsaf neu yn y cyffiniau yr adeg hon gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydain cyn gynted â phosib."

Y rhif ffôn yr heddlu yw 0800 40 50 50 neu mae modd gadael neges destun ar 61016, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 240 ar 20/06/15.