Crasfa i Forgannwg yn erbyn Sussex

Morgannwg Image copyright Huw Evans picture agency

Morgannwg 115am9 (20 pelawd)

Sussex 116 am 0 (12.2 pelawd)

Mae gobeithion Morgannwg o fynd i rowndiau nesaf y T20 Blast wedi gwanhau ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn Sussex yng Nghaerdydd.

Fe ddewisodd yr ymwelwr faesu yn gyntaf - ac fe gyfyngwyd Morgannwg i 115 am 9 ar ôl 20 pelawd.

Fe ddychwelodd Jaques Rudolph a Craig Meschede i'r pafiliwn heb sgorio, cyn i Christopher Cooke sefydlogi rhywfaint ar y sefyllfa gyda chyfraniad o 45.

Ond fe gollwyd wicedi Ingram, Wright a Wallace yn rhad hefyd - un rhediad yr un - ac roedd cyfanswm Morgannwg yn rhy isel o lawer.

Fe gyrhaeddodd yr ymwelwyr y targed ar ôl 12.2 pelawd - a heb golli wiced - diolch i fatio Chris Nash a Luke Wright.