Marwolaethau Cas-gwent: Teyrngedau

Nigel a Stacey Hendrson Image copyright Arall
Image caption Nigel a Stacey Hendrson

Mae teuluoedd dyn a dynes a fu farw yng Nghas-gwent wedi rhoi teyrnged i'r ddau.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i farwolaeth Nigel Henderson, 52 oed, a Stacey Hendrson, 35 oed.

Dywed yr heddlu nad ydynt yn chwilio am unrhyw un mewn cysylltiad â'r marwolaethau.

Dywedodd teulu Nigel Henderson eu bod yn dorcalonnus o glywed am ei farwolaeth. Roedd yn dioddef gyda salwch cronig. Mewn datganiad, dywedodd y teulu: "Fe fydd colled mawr ar ôl Nigel, a bydd ei blant ei chwaer, dau fraw a ffrindiau yng Nghas-gwent a Bryste yn gweld ei eisiau. "

Dywedodd teulu Stacey Hendrson: "Cafodd ei chymryd o'r byd hwn yn rhy gynnar, ein merch fach gariadus. Mae hyn tu hwnt i grediniaeth, a bydd hi wastad yn ein calonnau.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Ruffets Close yn y dref am 11:52 fore Gwener, 19 Mehefin.