Pêl-droed Ewropeaidd: Cyhoeddi gemau

Cwpan Image copyright Getty Images

Mae'r gemau ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cynghreiriau'r Pencampwyr ac Europa wedi eu cyhoeddi ddydd Llun, gyda nifer o dimau Cymreig yn clywed pwy fydd eu gwrthwynebwyr.

Bydd y Seintiau Newydd yn chwarae yn erbyn B36 Torshavn o Ynysoedd y Ffaro yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngrair y Pencampwyr eleni. Byddai buddugoliaeth yn golygu gêm yn erbyn Videoton FC o Hwngari yn yr ail rownd.

Yng Nghynghrair Europa fe fydd y Drenewydd yn chwarae Valetta o ynys Malta, gyda Bala yn erbyn Diverdange o Lwcsembwrg, a Slask Wroclaw fydd gwrthwynebwyr Airbus UK.

Bydd y gemau'n cael eu chwarae ar 2 a 9 o Orffennaf.