Dyn o Wynedd yn pledio'n euog i droseddau cyffuriau

Cei William Owens Image copyright Athena Pictures
Image caption Cei William Owens yn gadael y llys ddydd Llun

Mae dyn 29 oed o Wynedd wedi pledio'n euog i droseddau'n ymwneud â chyffuriau yn Llys y Goron Abertawe.

Cafodd Cei William Owens, o Aberdyfi, ei arestio'r llynedd fel rhan o ymgyrch yn erbyn cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon ar y we. Mae'n un o chwech o bobl a gafodd eu harestio drwy Brydain, yn cynnwys dau arall o Wynedd.

Fe blediodd Owens yn euog i'r pum cyhuddiad yn ei erbyn, yn cynnwys bod â chyffuriau Dosbarth A a B yn ei feddiant, a chynnig cyflenwi cyffuriau.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 24 Gorffennaf.