Kristoffer Nordfeldt yn ymuno hefo'r Elyrch

Kristoffer Nordfeldt Image copyright Getty Images

Mae Abertawe wedi arwyddo'r gôl-geidwad o Sweden, Kristoffer Nordfeldt, o glwb Heerenveen.

Mae Nordfeldt wedi arwyddo cytundeb tair blynedd o hyd gyda'r Elyrch.

Bydd y golwr 26 oed yn cystadlu hefo Lukasz Fabianski am le yn nhîm Garry Monk, ar ôl i Gerhard Tremmel a David Cornell adael y clwb.

Dyma'r trydydd chwaraewr i'r Elyrch arwyddo dros yr haf, wedi i'r ymosodwr Andre Ayew arwyddo o Marseille a'r amddiffynnwr Franck Tabanou ymuno o St Etienne.