Y Farwnes Morgan eisiau sefyll fel Aelod Cynulliad

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Y Farwnes Eluned Morgan yn siarad gyda rhaglen Newyddion 9 o San Steffan

Mae'r cyn Aelod Seneddol Ewropeaidd, y Farwnes Morgan o Drelái, wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd Llafur yn etholiad cynulliad 2016.

Mae Eluned Morgan yn lefarydd Llafur ar Gymru a materion tramor yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Nid yw'r Farwnes Morgan, oedd yn ASE rhwng 1994 a 2009, wedi penderfynu lle y bydd yn sefyll fel ymgeisydd ar hyn o bryd.

Fe wnaeth y cyhoeddiad yn Nhŷ'r Arglwyddi nos Fawrth.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth tri Aelod Cynulliad gyhoeddi na fyddan nhw'n sefyll eto yn 2016.