Y Farwnes Morgan
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Y Farwnes Morgan eisiau sefyll fel AC

24 Mehefin 2015 Diweddarwyd 08:28 BST

Yn dilyn cyhoeddiad y cyn Aelod Seneddol Ewropeaidd, y Farwnes Eluned Morgan, ei bod hi'n gobeithio sefyll yn etholiadau'r cynulliad fis Mai nesaf, mae hi wedi bod yn siarad gyda rhaglen Newyddion 9 am ei phenderfyniad.

Eluned Morgan yw llefarydd Llafur ar Gymru a materion tramor yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac yno ar nos Fawrth wnaeth hi ei chyhoeddiad.

Nid yw'r Farwnes Morgan, oedd yn Aelod Senedd Ewrop rhwng 1994 a 2009, wedi penderfynu lle y bydd yn sefyll fel ymgeisydd.