Y Rownd Olaf

Coeliwch neu beidio ar hyn o bryd mae rhywun yn pori trwy'r cannoedd o filoedd o eiriau sydd wedi ymddangos ar y blog hwn ar hyd y blynyddoedd yn y gobaith bod 'na lyfr yn celu yn y brwyn. Fe gawn weld.

Soniais wrth y person ffodus hwnnw fy mod yn amau fy mod wedi sgwennu ambell i erthygl fwy nac unwaith gan ail-wyntyllu ambell i syniad ac ailgylchu ambell i stori. Roedd ei gwen fach siriol yn adrodd cyfrolau!

Rwy'n betrusgar braidd felly wrth ddychwelyd at ddamcaniaeth sydd wedi bod yn thema weddol gyson yn fan hyn o'r cychwyn cyntaf. Hanfod y ddamcaniaeth honno yw bod modd deall datblygiad cyfansoddiadol Cymru trwy ei weld fel ffrwyth yr ymgiprys rhwng y traddodiad cenedlaethol a'r traddodiad unoliaethol o fewn y Blaid Lafur,

Fe ddatblygodd y traddodiadau hynny yn gynnar iawn yn hanes y blaid gyda'r datganolwyr a'u gwreiddiau yn y Gymru wledig, ardal y chwareli a'r maes glo caled a'r unoliaethwyr a'u cadarnleoedd yn y porthladdoedd, dinasoedd ein dyddiau ni, a'r maes glo ager.

Os am ddeall y gwahaniaethau deallusol mae'n werth darllen dau fywgraffiad diweddar - "Arwr Glew y Werin", portread D. Ben Rees o Jim Griffiths, a "Nye - The Political Life of Aneurin Bevan" gan Aelod Seneddol newydd Torfaen, Nick Thomas-Symonds.

Nawr, mae'r ornest ddeallusol hon wedi para am ganrif a mwy a dyw hi ddim o reidrwydd yn beth gwael. Mae llanw a thrai'r dadleuon o fewn y blaid Lafur fwy neu lai wedi adlewyrchu'r farn gyhoeddus ac mae setliad sy'n dderbyniol i drwch y blaid Lafur yn debyg o fod yn dderbyniol i drwch pobl Cymru.

Y rheswm rwy'n dychwelyd at y pwnc hwn nawr yw fy mod yn synhwyro bod y platiau tectonig yn symud o fewn y blaid. Mae'n rhy gynnar i gyhoeddi buddugoliaeth derfynol efallai ond, o ddefnyddio Cymraeg Carwyn ei hun, mae'r datganolwyr yn sefyll eu cornel tra bod yr unoliaethwyr a'u cefnau ar y mat.

Ystyriwch y dystiolaeth. Dyna i chi bererindodau'r ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth Brydeinig i Fae Caerdydd i gael eu lluniau wedi eu tynnu ar sofa Carwyn. Mae penderfyniad Huw Irranca-Davies fod cydlynu ymgyrch Cynulliad 2016 yn fwy pwysig na bod ar feinciau blaen San Steffan yn adrodd cyfrolau. Felly hefyd penderfyniad Eluned Morgan i droi eu llygaid i gyfeiriad y Bae.

Brand nid plaid yw Llafur Cymru mewn gwirionedd ond mae hynny'n dechrau newid gydag aelodau Llafur yng Nghmru yn fwyfwy penderfynol o dorri eu cwys ei hun. Fel dywedodd un ohonyn nhw ar ôl etholiad eleni "that's the last time we let London tell us how to run a campaign in Wales."

Pam y newid?

Mae'n anodd osgoi'r casgliad mai'r digwyddiadau yn yr Alban sy'n bennaf gyfrifol. Gyda'r Albanwyr, mwy na heb, wedi diflannu o'r blaid seneddol ar lefel Brydeinig mae Cymru yn fwy pwysig i Lafur nac y buodd hi. Does neb yn disgwyl i Lafur Cymru wynebu'r un fath o ddinistr a'r blaid Albanaidd ond cofiwch, blwyddyn yn ôl doedd neb yn yr Alban yn credu bod chwalfa o'r fath yn bosib yno.

Mae Carwyn, a Chymru, yn gallu enwi eu pris.