Llai Cŵl-Cymru

Gyda thîm pêl-droed Cymru bellach ymhlith 10 detholyn uchaf y byd a chymaint o Gymry yn cael llwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol, mae'n gwlad yn brysur ad-ennill y disgrifiad 'Cŵl Cymru' a oedd mor amlwg yn y 90au. Ond trwy bori trwy'r archif luniau, doedd hi ddim felly am gyfnod maith!

Image caption Dyma sut roedd plant yn arfer gwisgo nôl yn yr hen ddyddiau
Image caption Roedd pawb yn mynd i'r Eisteddfod
Image caption Ac yn canu'r delyn...
Image caption Roedd pawb yn mynd i'r capel...
Image caption ...ac yn canu mewn côr
Image caption Roedd hi hyd yn oed yn anodd i fod yn cŵl yn y cyfryngau...
Image caption ..ond fe wnaeth rhai, fel Endaf Emlyn, dyfu i fod yn cŵl... yn y diwedd!
Image caption Ond fe frwydrodd eraill, fel Tom Jones, yn erbyn y peth am flynyddoedd
Image caption Roedd hyd yn oed Hywel Gwynfryn yn ei chael hi'n anodd i fod yn cŵl
Image caption Ond o leiaf gallwch chi ddibynnu ar dîm 'Scrum V' !

Ai chi yw un o'r plant yn y lluniau? Anfonwch nodyn at:

cymrufyw@bbc.co.uk

Twitter - @BBCCymruFyw