Crabb yn annerch Aelodau Cynulliad

Stephen Crabb
Image caption Roedd Stephen Crabb yn annerch ACau ddydd Mercher

Ni ddylai Cymru ddefnyddio cwynion am ddiffyg ariannu gan San Steffan fel "yr esgus cenedlaethol mawr", yn ôl Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru.

Wrth annerch Aelodau Cynulliad yng Nghaerdydd, galwodd Mr Crabb ar yr aelodau i ymateb i bryderon etholwyr, a pheidio derbyn safonau tila.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'n derbyn digon o arian o Lundain o ganlyniad i'r ffordd y mae ei gyllideb wedi cael ei gosod gan y Trysorlys.

Mae Llywodraeth Prydain yn dweud ei fod wedi ymrwymo i addasu'r system i amddiffyn cyllideb Cymru.

'Cryfach a thecach'

Dywedodd Mr Crabb fod y llywodraeth Geidwadol wedi ymrwymo i "aildrefnu'r setliad datganoli i Gymru, gan ei wneud yn fwy eglur, yn gryfach ac yn decach."

Ond fe ychwanegodd fod rhoi cyfrifoldebau newydd i Lywodraeth Cymru i godi trethi yn "rhan o becyn".

Roedd Mr Crabb yn cyflwyno ei ddatganiad cyntaf i'r Cynulliad ar araith y Frenhines.

Dywedodd y byddai'n diddymu'r digwyddiad blynyddol, gan ei ddisgrifio fel "anacroniaeth" i sefydliad oedd gyda'i dynged ar fod yn senedd lawn.

'Symud ymlaen'

Bydd Mesur drafft Cymru ar rymoedd newydd i Fae Caerdydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Dywedodd Mr Crabb: "Rwy'n credu'n gryf fod y cyhoedd Cymraeg yn awchu arnom ni i symud ymlaen fel cenedl ac i'r lle hwn - y Cynulliad Cenedlaethol, y senedd yma - i fod yn fforwm gwirioneddol i drafodaethau a phenderfyniadau gydag ymdeimlad o bwrpas a gweithred, yn llais i'n uchelgais cenedlaethol i gael twf economaidd, creu cyfoeth, llwyddiant addysgiadol, a chanlyniadau iechyd.

"Iddo gynnig yr atebion i'r holl faterion sy'n bwysig i'r bobl y mae'n ei wasanaethu. Nid cyfrwng i drafodaeth ddi-ben-draw am fwy o rymoedd neu eneradur i ryw gonsensws diflas sy'n bodloni ar safonnau tila ble mae ariannu yn cael ei ddefnyddio fel yr esgus cenedlaethol mawr i beidio â gwireddu ein potensial".

Dywedodd nad oedd pleidleiswyr wedi gofyn iddo unwaith yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar am rymoedd a datganoli. Ychwanegodd fod gagendor enfawr yn bodoli rhwng pryderon pleidleiswyr a blaenoriaethau'r "commenteriat" Cymreig.

Straeon perthnasol