Cwest Cas-gwent: Dynes wedi ei thrywanu i farwolaeth

Nigel Henderson a Stacey Henderson Image copyright Wales News Service
Image caption Nigel Henderson, 52, a'i wraig Stacey, 35

Mae cwest wedi clywed bod dynes fu farw yn ei chartref yng Nghas-gwent wedi ei thrywanu i farwolaeth.

Cafodd corff Mrs Henderson, 35 oed, â'i gŵr, 52 oed, eu darganfod yn eu cartref ddydd Gwener.

Clywodd y gwrandawiad yng Nghasnewydd fod canlyniadau archwiliad post-mortem yn dangos i Mrs Henderson farw o ganlyniad iddi gael ei thrywanu yn ei brest a'i chalon.

Mae'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un amheus, ond dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad a'r digwyddiad.

Yn ôl canlyniadau dros dro Mr Henderson, fe gafodd ei drywanu yn ei gorff a'i galon.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jon Lewis bod parafeddygon wedi cadarnhau bod y ddau wedi marw yn y tŷ.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd teulu Mr Henderson ei fod yn dioddef o "salwch cronig" a bod ei farwolaeth yn "gynamserol".

Dywedodd teulu Mrs Henderson mewn datganiad ar wahân: "Cymerwyd y bywyd hwn yn rhy gynnar, ein merch hyfryd a hoffus."

Straeon perthnasol