Cwest SAS: Penllanw chwe mis o hyfforddi

Corporal James Dunsby, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Is-gorporal Craig Roberts Image copyright MOD/PA
Image caption Corporal James Dunsby, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Is-gorporal Craig Roberts

Penllanw chwe mis o hyfforddi oedd yr ymarferiad ar y Bannau. Roedd yn fodd o benderfynu oedd yr ymgeiswyr yn barod i ymuno ag uned o filwyr wrth gefn yr SAS.

Roedd y tri milwr wrth gefn yn cymryd rhan mewn ymarfer 16 milltir ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn - ac roedd rhaid cwblhau'r daith o fewn 4 awr a 10 munud.

Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts o Fae Penrhyn ger mynydd Pen-y-Fan a bu farw dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Nod y cwest yn Solihull, barodd am bedair wythnos gan ddod i ben ar 26 Mehefin, oedd penderfynu ar amgylchiadau'r marwolaethau.

'Rhoi'r gorau i symud'

Clywodd y cwest bod pum llecyn goruchwylio ar y cwrs hyfforddi, er mwyn penderfynu oedd y milwyr yn ddigon iach i barhau â'r ymarferiad.

Yn ystod y gwrandawiad roedd un tyst, milwr 1D, wedi dweud iddo bwyso dyfais larwm brys yr Is-gorporal Roberts.

Er i'r ddyfais gael ei bwyso am 15:15, roedd hi'n 16:00 erbyn i swyddogion gyrraedd i'w gynorthwyo.

Roedd dyfais tracio'r Is-gorporal Maher yn dangos iddo roi'r gorau i symud am 14:16, ond roedd hi bron ddwy awr yn ddiweddarach pan wnaeth swyddogion monitro sylweddoli hyn.

Bu hi bron yn awr ar ôl i gorporal Dunsby roi'r gorau i symud cyn i swyddogion ei gyrraedd.

Roedd o'n anymwybodol, a bu farw 17 diwrnod yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Clywodd y cwest bod y dynion wedi dioddef o orboethi - gyda'r corff yn methu rheoli tymheredd.

Monitro milwyr

Dywedodd un o'r milwyr monitro, milwr 1C, wrth y cwest nad oedd corpral Maher wedi rhoi gwybod am unrhyw broblemau yn ystod yr ymarfer.

"Ni allaf ganolbwyntio ar un milwr penodol oherwydd mae nifer o'r milwyr wedi blino, ac mae'n rhaid cadw golwg arnyn nhw hefyd," meddai'r milwr.

Roedd 78 yn cymryd rhan yn yr ymarferiad.

"Mae ceisio cadw cofnod o fonitor pawb yn eithaf anodd."

Image caption Roedd yr ymarferiad yn cael ei gynnal ar Fannau Brycheiniog

Clywodd y cwest mai dyma'r tro cyntaf i filwr 1C ddefnyddio'r system fonitro ar ymarfer yn y Bannau. Roedd wedi bod yn monitro am naw awr, gyda chyfnodau o doriad.

Dywedodd un uwch swyddog o'r fyddin bod y milwyr wrth gefn wedi cwblhau 35 o ddyddiau hyfforddi cyn y prawf olaf ar y Bannau.

Roedd hynny'n cynnwys 14 o ymarferiadau, taith 60 cilomedr a sawl wythnos ar y mynyddoedd.

"Byddai hynny yn cymharu'n dda gyda'r ymarfer mae milwyr llawn amser yn ei wneud," meddai'r swyddog.

"Roedd uwch-swyddog arall o'r farn fod "unigolion ddim wedi eu paratoi yn ddigonol ar gyfer y prawf o'u blaenau."

Lefelau ffitrwydd

Clywodd y cwest hefyd gan y dyn oedd yn gyfrifol am asesiad risg ar gyfer yr ymarferiad.

Dywedodd nad oedd o'n ymwybodol o ganllawiau swyddogol y Weinyddiaeth Amddiffyn ar orboethi.

Dywed y canllawiau pe bai un milwr yn dioddef o orboethi fe alli fod yn arwydd bod 'na risg i erial.

Wrth roi tystiolaeth i'r cwest dywedodd yr athro George Havenith, arbenigwr mewn gorboethi, y gallai'r tri milwr, mwy na thebyg, fod wedi goroesi pe bai nhw wedi rhoi'r gorau iddi ar y llecyn goruchwylio olaf.

Erbyn hynny, meddai, roedd milwyr eraill wedi dioddef o effeithiau gorboethi yn ystod y dydd.

Fe wnaeth cyfanswm o saith milwr, gan gynnwys y tri a fu farw, ddioddef salwch o ganlyniad i orboethi ar y diwrnod.

Image copyright BBC news grab
Image caption Rhieni Is-gorporal Craig Roberts, Kelvin a Margaret Roberts, yn cyrraedd y cwest sydd wedi para pedair wythnos

Ond dywedodd tyst a gafodd ei alw gan y Weinyddiaeth Amddiffyn bod y prawf ynglŷn â sut oedd myfyrwyr yn ymdopi yn yr amgylchiadau yn ogystal â'u lefelau ffitrwydd.

Dywedodd milwr 9F, swyddog hyfforddi ar gyfer milwyr llawn amser: "Mae'n hanfodol fod unigolion yn cymryd cymrifodeb am eu hunian .

"Dyw hwn ddim yn hyfforddiant cyffredin, mae'n gwrs gwirfoddol sy'n cymryd blynyddoedd o baratoi, a hynny'n feddyliol yn ogystal â chorfforol."

"Mae' anodd o ran natur...oherwydd ein bod yn gofyn iddynt wneud llawer mwy na hyfforddiant sylfaenol"

Ond mae rhieni un o'r milwyr yn honni i'r Fyddin drio celu beth yn uniong ddisgwyddodd ar y diwrnod.

Casgliadau

Ers y digwyddiad ar Fannau Brycheiniog mae'r fyddin wedi archebu gwelliannau i'r system monitro a thracio - a bydd y rhain yn barod erbyn diwedd y flwyddyn.

Bydd un rhan o'r feddalwedd newydd - ar gost o £1.5 miliwn - yn gallu rhoi gwybod yn fanwl a yw milwr wedi stopio symud.

Dywed y fyddin y bydd milwyr wrth gefn sy'n gobeithio ymuno ag uned o'r SAS nawr yn derbyn yr un hyfforddiant a milwyr llawn amser.

Mae'r gweithgor Iechyd a diogelwch wedi bod yn cadw llygad ar y dystiolaeth gan ddweud nad ydynt wedi diystyru posibilrwydd o gamau cyfreithiol.

Dyfarniad y crwner

Bedair wythnos wedi i'r cwest ddod i ben, ar 14 Gorffennaf, fe ddywedodd y crwner Louise Hunt nad oedd hi yno "i roi bai ar unrhywun".

Wrth gyfnodi rheithfarn naratif, dyfarnodd bod y tri milwr wedi marw o effeithiau hyperthermia, neu gorboethi.