'Mwy o her yn wynebu'r iaith' yn ôl academydd

Dr Sion Aled Owen
Image caption Mae Dr Sion Aled Owen eisiau gweld mwy o bobl ifanc yn siarad yr iaith

Mae mwy o her yn wynebu'r Gymraeg nag yn ystod brwydr arwyddion ffyrdd y saithdegau, yn ôl academydd.

Wrth drafod canfyddiadau cychwynnol gwaith ymchwil ar ddefnydd y Gymraeg y tu allan i'r stafell ddosbarth mae Dr Sion Aled Owen wedi dweud wrth raglen materion cyfoes Manylu ar BBC Radio Cymru fod angen ffyrdd ymarferol ar fyrder i gynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy'n siarad yr iaith yn gymdeithasol.

"Pan oeddwn i'n cychwyn fel ymgyrchydd iaith, y frwydr bennaf oedd dros statws - arwyddion dwyieithog, newid polisïau llywodraeth a sefydlu sianel," meddai.

"Ond rwan mae'n gam llawer mwy anodd. Er mor bwysig ydi statws, os na fydd yr iaith ar leferydd plant a rhieni'r dyfodol, buddugoliaeth go wag fydd ganddon ni."

Drwy Brifysgol Bangor mae wedi cael arian gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ar gyfer y gwaith ymchwil.

'Hunaniaeth'

Bu'n holi disgyblion a rhieni cynradd ac uwchradd am eu defnydd a'u hagwedd tuag at y Gymraeg yn gymdeithasol.

"Un peth doeddwn i ddim wedi meddwl amdano cyn yr ymchwil oedd cwestiwn hunaniaeth," meddai.

"Mae nifer o blant wedi gwneud y pwynt - er eu bod nhw'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg - eu bod nhw'n teimlo nad ydy nhw'n cael trafod digon am hunaniaeth a diwylliant. Pam ein bod ni'n siarad Cymraeg er enghraifft? Roedd 'na deimlad y gallai ysgolion fod yn ymdrin mwy â'r cwestiynau yma.

"O'r hyn dwi wedi ei weld ac wedi ei glywed dwi'n meddwl fod angen edrych ar gryfhau yr elfen yna ynte? - a falle bod yn rhaid inni edrych nid yn nhermau deud wrth bobl be' i'w gredu neu be' i feddwl ond rhoi iddyn nhw yr adnoddau i feddwl drostyn nhw eu hunain ac i ganfod eu Cymreictod eu hunain mewn ffordd ddyfnach."

Yng Ngwynedd mae cynllun Siarter Iaith ar waith mewn 96 o ysgolion cynradd er mwyn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth. Un o'r ysgolion ydi Tregarth ger Bangor lle mae 80% o'r plant yn dod o gartrefi di-Gymraeg.

'Syfrdanu'

Image caption Mae Alison Halliday yn awyddus i blant ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth

"Mi wnaethon ni ddarganfod yn 2013 fod y plant yn siarad Cymraeg yn wych yn y dosbarthiadau ond unwaith roedden nhw allan ar yr iard mi oedden ni wedi cymryd yn ganiataol mai yn Gymraeg y basan nhw yn chwarae - ond mi oedden nhw yn defnyddio eu hiaith arferol sef Saesneg," meddai'r pennaeth Alison Halliday.

"Mi gawson ni ein syfrdanu dipyn bach fel ysgol felly mi aethon ni ati wedyn i ymateb i hynny drwy sicrhau fod ganddon ni gemau buarth a chydig bach mwy o strwythur iddyn nhw.

"Mi gawson ni'r syniad o gael dreigiau doeth ymhlith y plant - rhyw fath o fydis buarth fyddai'n helpu plant i gael ffrindiau ond hefyd yn helpu'r cymorthyddion i arwain y chwarae yn Gymraeg."

Mae hi'n grediniol fod y cynllun wedi dwyn ffrwyth ac wedi bod yn llwyddiant.

Image caption Mae Acacia a Millie yn ddreigiau doeth ar yr iard yn Ysgol Tregarth

Y farn yn Wrecsam

Aeth rhaglen Manylu i Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, unig ysgol uwchradd Gymraeg y dref, hefo'r Dr Sion Aled Owen i glywed barn rhai o ddisgyblion Blwyddyn 7 am eu harferion siarad Cymraeg.

Dyma oedd rhai o'r atebion i'r cwestiwn 'Pa iaith ydach chi'n ei siarad fwyaf y tu allan i'r ysgol hefo ffrindiau?':

"Yn anffodus, mae'n dibynnu pwy ydy nhw. Os ydi'r ffrindiau yn hoffi siarad Cymraeg 'dan ni'n gwneud ymdrech i siarad Cymraeg gyda'n gilydd ond os nad ydyn nhw isho, does neb yn eu gorfodi nhw i siarad yr iaith."

"'Dan ni yn tueddu i siarad mwy o Saesneg ond os ydan ni yn trafod pethau ysgol, 'dan ni'n tueddu i siarad mwy o Gymraeg."

"Dydi rhai o'r plant ddim yn meddwl ei bod yn cŵl felly maen nhw'n troi i'r Saesneg o hyd ond roedden nhw'n siarad mwy o Gymraeg yn yr ysgol gynradd dwi'n meddwl...".

"Roeddwn i yn siarad mwy o Gymraeg yn yr ysgol gynradd ond pan dwi 'di dod i'r ysgol uwchradd mae mwy o blant yn siarad Saesneg."

'Gweledigaeth'

Mi fydd Sion Aled Owen yn parhau â'i waith ymchwil yn ystod y misoedd nesaf, gan obeithio cwblhau'r prosiect o fewn Iaith y Dosbarth? - 18 mis.

"Un o'r pethau tristaf dwi wedi ei weld yn fy mhrofiad fy hun ydi rhieni yn dod â'u plant i ysgol Gymraeg ac yn dweud: 'Dan ni isho iddo fo neu hi gael y cyfle gawson ni' ond yn methu deud hynny yn Gymraeg, rhieni wedi bod drwy'r sustem eu hunain a wedyn mae'n rhaid ailadrodd yr holl beth yn y genhedlaeth nesaf.

"Nid dyna oedd gweledigaeth pobl fel Syr Ifan ab Owen Edwards a'r arloeswyr yn Llanelli wrth sefydlu'r ysgolion Cymraeg cyntaf ond rhywbeth fyddai'n cyfrannu at iaith fyw mewn teuluoedd ac yn y gymuned."

Mae'n dweud ei fod yn benderfynol o weld canlyniadau ei waith yn cael eu defnyddio yn ymarferol yn lle hel llwch mewn cwpwrdd.

Manylu, Radio Cymru, ddydd Iau, 25 Mehefin am 12:30

Hefyd ar y BBC