Morgannwg yn curo Sir Gaerlŷr o 137 o rediadau

Colin Ingram Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Colin Ingram gymrodd wiced Matthew Boyce am 60

Mae Morgannwg wedi ennill eu pedwaredd gêm yn olynol ym Mhencampwriaeth y Siroedd wrth guro Sir Gaerlŷr o 137 o rediadau yn Stadiwm Swalec.

Dechreuodd y tîm cartref fel y ffefrynnau ar ddiwrnod olaf y gêm, gyda'r ymwelwyr ar 75 am 3 yn ceisio cyrraedd targed o 324.

Matthew Boyce oedd y cryfaf o fatwyr Sir Gaerlŷr, gan sgorio 60 o rediadau, gan gynnwys partneriaeth o 54 gyda Niall O'Brien am y chweched wiced.

Ni chafodd yr ymwelwyr y dechrau gorau, wrth i Jigar Nail gael ei fowlio yn ail belawd y dydd.

Colin Ingram gafodd wiced hollbwysig Boyce, cyn i Craig Meschede fowlio Ben Raine.

Andy Carter roddodd ddiwedd ar obeithion Sir Gaerlŷr, gan gymryd wiced O'Brien am 41, a Charlie Shreck yn yr un belawd wrth i Forgannwg fowlio Sir Gaerlŷr allan am 186.

Dyma'r tro cyntaf i Forgannwg ennill pedair gem yn olynol ers 2004.

Maen nhw'n parhau yn drydydd yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd, 11 o bwyntiau y tu ôl i Surrey, sydd wedi chwarae un gêm yn fwy.