Ymchwiliad Grangetown: Arestio dyn

Arnel Martinez Raymondo Image copyright BBC/South Wales Police
Image caption Mae'r heddlu yn chwilio am Arnel Martinez Raymondo

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi arestio Arnel Martinez Raymundo - y dyn oeddynt am holi mewn cysylltiad ag ymdrech i lofruddio dynes 43 oed o Gaerdydd.

Cafodd dyn 47 oed ei arestio yn ardal Croydon Llundain yn gynnar bore Iau.

Maen nhw'n ei holi ynglŷn â digwyddiad yn ardal Grangetown ar ddydd Gwener 12 Mehefin.

Cafodd dynes 43 oed ei chludo i'r Ysbyty Athrofaol ar ôl cael ei thrywanu.

Aed a'r dyn yn ôl i orsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd, ac mae'r parhau i gael ei holi.

Bu rhan o Heol Penarth yn ardal Grangetown ar gau am gyfnod tra oedd y plismyn a hofrennydd yn chwilio'r ardal.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion a dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â nhw ar 101 neu'n ddienw ar 0800 555111

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 10:30 ac mae'r ddynes yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Image caption Roedd rhan o Heol Penarth yn ardal Grangetown ar gau wrth i'r heddlu ymchwilio