Morgannwg yn curo Gwlad yr Haf yn y T20

Tom Cooper of Somerset Image copyright PA

Sgoriodd Colin Ingram 96 o rediadau ac fe fowliodd Wayne Parnell belawd olaf wych i sicrhau buddugoliaeth gyffrous i Forgannwg yn erbyn Gwlad yr Haf yn y gystadleuaeth T20.

Perfformiad Ingram oedd yr uchafbwynt o fatiad Morgannwg yn Taunton, wrth i'r ymwelwyr gyrraedd 170 am 4 ar ddiwedd eu 20 pelawd.

Sgoriodd Ingram ei sgôr uchaf i Forgannwg oddi ar 62 pêl, ar ol i Craig Meschede golli ei wiced heb sgorio.

Llwyddodd Ingram a Graham Wagg i sgorio 70 yn y saith pelawd olaf, ond methodd Ingram a chyrraedd 100 wrth iddo gael ei ddal oddi ar bêl olaf y batiad.

Ni chafodd Gwlad yr Haf y dechrau gorau i'w batiad, wrth i gyn chwaraewr Morgannwg, Jim Allenby, golli ei wiced am bedwar rhediad.

Cafodd Dean Cosker ei ddal am 19 ac fe sgoriodd Peter Trego 39 oddi ar 31 cyn colli ei wiced.

Collodd Luke Ronchi a Tom Cooper eu wicedi yn agos i'w gilydd gyda thair pelawd i fynd, ac roedd y tîm cartref angen 28 rhediad oddi ar y ddwy belawd olaf.

Roedd Tim Groenewald yn agos iawn at gipio'r fuddugoliaeth i Wlad yr Haf gan sgorio 27 o naw pêl, ond llwyddodd Parnell i fowlio'n gywir yn y belawd olaf a sicrhau'r fuddugoliaeth i Forgannwg o dri rhediad.

Morgannwg: 170 am 4 (20 pelawd)

Gwlad yr Haf: 167 am 8 (20 pelawd)