Le Tour: Geraint Thomas a Luke Rowe i rasio i Team Sky

Luke Rowe a Geraint Thomas Image copyright Getty Images
Image caption Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Luke Rowe yn y ras dair wythnos

Am y tro cyntaf yn hanes y ras feicio enwog, mi fydd dau Gymro yn cystadlu yn y Tour de France eleni.

Mae Geraint Thomas, sy'n 29 oed, a Luke Rowe, sy'n 25, wedi cael eu dewis yng ngharfan Team Sky.

Roedd lle Thomas yn sicr ac yntau'n aelod blaenllaw o'r tîm o naw beiciwr fydd yn ceisio arwain Chris Froome i fuddugoliaeth.

Ond mae Rowe wedi gwthio ei hun i mewn ar sail perfformiadau cryf blwyddyn yma, yn enwedig wrth orffen yn wythfed yn ras Paris-Roubiax ym mis Ebrill. Doedd neb o Team Sky yn uwch nag o yn y ras undydd fawreddog.

Rowe fydd y trydydd Cymro yn unig i gystadlu yn hanes Le Tour, gan ddilyn Thomas a Colin Lewis, a fu'n cystadlu yn 1967 a 1968.

"Mae cael fy newis i gystadlu yn y Tour de France yn gwireddu breuddwyd oes, ac mae cael gwneud hynny yn y tîm mwyaf gyda'r arweinydd gorau yn y byd yn ei wneud yn fwy arbennig byth," meddai Lowe, brodor o Gaerdydd fel Thomas.

"Fedra i ddim disgwyl i gychwyn, yn enwedig yn ystod yr wythnos gynaf lle fydd yr amodau a'r cwrs yn gweddu fy arddull i o feicio."

Dyma fydd y chweched tro i Thomas fod yn y rhan o'r ras, sy'n cychwyn yn yr Iseldiroedd ddydd Sadwrn ac yn gorffen ym Mharis ar 26 Gorffennaf.

Team Sky:

Chris Froome, Richie Porte, Geraint Thomas, Ian Stannard, Wout Poels, Nicolas Roche, Luke Rowe, Leopold König, Peter Kennaugh.