Cymorth Cyfreithiol: 'Argyfwng ar y byd cyfreithiol'

bargyfreithwyr
Image caption Mae cymorth cyfreithiol eisoes wedi wynebu un rownd o dorriadau

Mae gwasanaethau Cymorth Cyfreithiol (neu Legal Aid) yn "wynebu argyfwng", yn ôl un bargyfreithiwr blaenllaw.

Fe allai llysoedd sy'n delio ag achosion troseddol ddod i stop yng Nghymru a Lloegr yr wythnos nesa', wrth i gyfreithwyr brotestio yn erbyn toriadau gan y llywodraeth i'r system cymorth cyfreithiol.

Mae bargyfreithwyr a chyfreithwyr yn cwrdd yr wythnos hon i drafod gweithredu yn erbyn toriadau i'r ffioedd maen nhw'n derbyn am gynrychioli pobl o fewn y system.

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud eu bod eisiau sicrhau fod trethdalwyr yn cael y gwerth gorau am arian.

Eisoes yn Lerpwl mae dros 100 o gyfreithwyr wedi dweud na fyddan nhw'n derbyn gwaith cymorth cyfreithiol, oherwydd eu bod nhw yn anhapus â'r tâl y byddan nhw'n derbyn am wneud y gwaith.

Mae system gymorth newydd yn dod i rym ddydd Mercher yng Nghymru a Lloegr.

Pobl fwyaf fregus

Mae'r rheiny sy'n gwrthwynebu'r newidiadau yn dweud mai'r rhai "sydd fwyaf angen help yw'r rhai fydd yn dioddef" pan ddaw'r newidiadau i rym, ac maen nhw'n honni na fydd gan bobl fregus lais yn y llys.

Mae Michael Strain yn gyfreithiwr ym Mhwllheli, a dywedodd: "Mae pawb yn wynebu toriadau difrifol, boed yn athrawon, plismyn, doctoriaid, ond mae gwasanaethau legal aid eisoes wedi derbyn toriadau.

"Da ni'n mynd i gyrraedd pwynt lle mae'r gwasanaeth yma yn gwbl anghynaladwy.

"Mae'n practis ni yn cynnig sawl gwasanaeth, gan gynnwys gwaith cymorth cyfreithiol, prynu a gwerthu ystadau, cyfraith teulu....Mae gwaith cymorth cyfreithiol yn cyfrif tuag at 40% o'n gwaith ni, ac yn sgil y toriadau mae peryg y bydd gwaith yn gorfod sybsideiddio gwaith troseddol."

Image caption Roedd Elfyn Llwyd yn arfer eistedd ar bwyllgor cyfiawnder y Tŷ Cyffredin

Roedd y cyn aelod seneddol a'r bargyfreithiwr Elfyn Llwyd yn arfer eistedd ar bwyllgor cyfiawnder y Tŷ Cyffredin. Dywedodd fod "hyn yn un toriad yn rhy bell."

"Pobl ddifreintiedig sy'n gofyn am gymorth cyfreithiol, pobl sy'n methu fforddio talu am y gwasanaeth, fydd yn dioddef, nhw fydd ddim yn cael eu cynrychioli."

Argyfwng

Dywedodd Owen Edwards, o Siambrau Linenhall, sy'n cynrychioli bargyfreithwyr gogledd Cymru a Sir Caer, fod y toriadau yma yn "argyfwng ar y byd cyfreithiol".

Dywedodd fod "hyn yn effeithio arnom ni i gyd. Effaith y toriadau hyn fydd cau nifer o gwmnïau cyfreithiol bach sydd wedi bod yn gwasanaethu ardaloedd cefn gwlad ers cenedlaethau.

"Mae'r cyfreithwyr yn derbyn fod toriadau yn anochel a'u bod yn gorfod newid y ffordd maen nhw'n gweithio. Ond mae dwy broblem yma, y ffaith fod dau gyfnod o doriadau. Mae un wedi bod eisoes, ar llall ar fin digwydd, yn y cyfamser mae'r llywodraeth wedi sefydlu 'cynllun cytundebol' sy'n mynd i gyfyngu ar nifer y cwmnïau sy'n gallu cynnig cymorth cyfreithiol, ac felly yn lleihau nifer y cyfreithwyr troseddol o thua 1,500 i thua 500 yng Nghymru a Lloegr.

"Mae hon yn storm berffaith, cyfreithwyr allan o waith a phobl heb gynrychiolaeth. Hyd yn oed ar ôl y toriadau fydd 'na ddim digon o arian i gynnal y gwasanaeth.

"Mae rhai o gyfreithwyr y gogledd eisoes wedi dweud na fydda nhw'n derbyn gwaith cymorth cyfreithiol o ddydd Mercher ymlaen."

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y newidiadau i gymorth cyfreithiol yn cael eu cyflwyno i sicrhau fod trethdalwr yn cael y gwerth gorau am arian a bod y lefel uchaf posib o wasanaeth cyfreithiol ar gael i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

Straeon perthnasol