Clybiau Cymru'n dechrau ar eu hymgyrchoedd Ewropeaidd

Cynghrair y Pencampwyr Image copyright Getty Images
Image caption Fe fydd ail gymal y pedair gêm yn cael eu cynnal wythnos nesaf

Mae pedwar clwb o Gymru yn dechrau ar eu hymgyrchoedd Ewropeaidd yr wythnos hon, oll yn awyddus i fod ar y blaen yn mynd i ail gymal y gemau.

Fe fydd enillwyr Uwch-gynghrair Cymru Y Seintiau Newydd ar Ynysoedd Ffaro nos Fercher i wynebu'r pencampwyr B36 Tórshavn yn y stadiwm cenedlaethol.

Eleni fydd y pumed gwaith yn olynol i'r Seintiau ymddangos yn rownd ragbrofol cyntaf Cynghrair y Pencampwyr.

Dyw pencampwyr Cymru heb ennill gêm yn y gystadleuaeth ers 2011, ond mae cyfarwyddwr pêl-droed y clwb Craig Harrison wedi dweud ei fod yn hyderus y gallan nhw gyrraedd y rownd nesaf.

Mae'n bosib y bydd asgellwr y Seintiau Adrian Cieslewicz yn wynebu ei frawd, Lukasz, sy'n chwarae i B36.

Roedd Adrian yn arfer chwarae i'r clwb o Ynysoedd Ffaro yn ogystal, ond hynny am lai na dau fis yn ystod haf y llynedd, cyn iddo ymuno â phencampwyr Cymru.

Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Eleni fydd y pumed gwaith yn olynol i'r Seintiau ymddangos yng Ngynghrair y Pencampwyr

Cynghrair Europa

Bydd tri chlwb arall o Gymru yn dechrau eu hymgyrchoedd yn Gynghrair Europa nos Iau, i gyd yn y gobaith o symud 'mlaen i'r ail rownd ragbrofol.

Fe fydd y Bala yn teithio i Luxembourg i wynebu Differdange 03, gyda'r gic gyntaf am 18:00.

Mae gan Airbus yr her o groesawu Lokomotiva Zagreb o Groatia i Gymru, ond mae'r gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Nantporth ym Mangor gan nad yw eu stadiwm arferol, Y Maes Awyr, yn cydymffurfio gyda gofynion UEFA.

Bydd y Drenewydd yn wynebu Valletta o Malta ym Mharc Latham, gyda'r clwb o Bowys yn ymddangos yng nghystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf ers 1998.

Fe fydd ail gymal y pedair gêm yn cael eu cynnal wythnos nesaf.