Cwynion cymorthyddion ysgol ym Môn

Cymorthydd

Mae nifer o gymorthyddion ysgol ar Ynys Môn am brotestio yn Llangefni ddydd Mercher, am fod eu cyflogwr, Cyngor Ynys Môn, yn bwriadu talu llai iddyn nhw yn y dyfodol am wneud yr un gwaith.

Mae'r cyngor wedi bod yn adolygu eu polisi cyflogaeth yn sgîl cytundeb cenedlaethol er mwyn sicrhau cyflog cyfartal i weithwyr sy'n gwneud yr un math o waith, ac mae hynny'n golygu y bydd rhai gweithwyr yn derbyn rhagor o gyflog. Fe fydd gweithwyr eraill, yn cynnwys nifer o gymorthyddion, yn derbyn llawer llai o arian, gyda rhai yn derbyn 25% yn llai.

Dywed y cyngor fod pob ymdrech wedi ei wneud i gadw'r nifer sy'n colli cyflog i'r isafswm lleiaf posib.

Hyd yma mae cymorthyddion ysgol wedi bod yn cael eu cyflogi am flwyddyn gyfan, er mai 39 o wythnosau'r flwyddyn maen nhw'n ei weithio. Oherwydd cytundeb cenedlaethol mae rhaid i gynghorau sicrhau fod eu gweithwyr yn cael eu trin yr un fath.

Gostyngiad

O ganlyniad, o fis Ebrill 2016 ymlaen, bydd cymorthyddion yn cael cyflog am 39 wythnos yn unig, ac mae hynny'n golygu gostyngiad sylweddol i rai. Mae Sue Layton yn gymhorthydd yn Ysgol y Graig yn Llangefni. Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ddydd Mercher dywedodd: "Dwi wedi bod yn gweithio yma rwan ers 28 mlynedd, a trwy'r adeg yma dwi wedi bod yn gwneud yr un swydd bob diwrnod.

"Wedyn ar ôl y newidiadau yma be fydd yn digwydd ydi fyddai jyst yn colli 25% allan o fy nghyflog - sef £5000, a dwi'n gweld hynny'n annheg."

Mae hi'n dweud na fyddai modd iddi barhau yn y swydd ar ôl derbyn torriad mor fawr.

Image caption Pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn

Gadael y maes

Mae'r cynghorydd Alwyn Rowlands yn gyfrifol am adnoddau dynol ar gabinet Cyngor Ynys Môn, ac yn credu ei bod yn rhy gynnar i ddweud os bydd cymorthyddion yn gadael y maes mewn niferoedd sylweddol o achos y newidiadau:

"Amser neith brofi hynny. Mae na daliad gwarchod am flwyddyn i fynny at fis Ebrill nesaf. Mae na wedyn 50% o daliad gwarchod o'r gwahaniaeth. Mi roedden ni wedi rhoi'r cynnig ar y bwrdd o dair blynedd o daliad gwarchod ond roedd yr undebau'n meddwl fasa'n well cael ôl daliad hefyd.

"Wrth fod ganddo ni ddim arian o gwbl yn fwy na beth oedd ar y bwrdd, roedd yn rhaid gwneud beth fedra ni hefo fo a dyna ydi'r cynnig sydd ar y bwrdd rwan."

Image caption Rhun ap Iorwerth

Cydymdeimlo

Dywedodd Rhun Ap Iorwerth, Aelod y Cynulliad dros Ynys Môn, ei fod yn cydymdeimlo'n fawr a'r aelodau hynny o staff y cyngor fydd yn derbyn gostyngiad cyflog. Mae o'n dadlau ei bod yn anheg newid swyddi staff o fod yn rhai llawn amser i fod yn rhan amser: "Mae na bobl sydd a'u gyrfa wedi bod yn gymorthyddion ysgol. Mae nhw'n mwynhau'r yrfa. Mae eu gwaith nhw'n cael ei werthfawrogi, ond mae'r neges yn dod allan o'r cyngor rwan nad ydi eu swyddi yn gallu bod yn llawn amser.

"I fi, tydi o ddim yn dderbyniol i droi swydd llawn amser yn swydd rhan amser fel sydd wedi cael ei wneud yn fan hyn. Nid chwilio am gyfartalaeth cyflog ydi hynny ond newid amodau gwaith a hynny mewn ffordd sylfaenol iawn iawn".

Y Cyngor

Mewn datganiad dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Ynys Môn, Gwynne Jones, fod y broses o gynllunio strwythur cyflog newydd wedi bod yn heriol iawn a bod pob ymdrech wedi ei wneud i gadw'r nifer sy'n colli cyflog i'r isafswm lleiaf posib.

Image caption Prif Weithredwr Cyngor Ynys Môn, Gwynne Jones