B36 Tórshavn 1-2 Y Seintiau Newydd

Adrian Cieslewicz Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r Seintiau Newydd wedi cymryd cam pwysig tuag at sicrhau lle yn rownd nesa' Cynghrair y Pencampwyr gyda buddugoliaeth yn y cymal cyntaf yn erbyn B36 Tórshavn o Ynysoedd Ffaro.

Y tîm cartref aeth ar y blaen yn gynnar yn y gêm wedi gôl gan Hans Pauli Samuelsen.

Ond fe ddaeth pencampwyr Cymru yn gyfartal o fewn dwy funud diolch i Scott Quigley.

Sgoriodd Mike Wilde yn y funud olaf i sicrhau buddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Cyn nos Fercher, doedd y Seintiau heb ennill gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr ers 2011 ac erioed wedi ennill cymal oddi cartref yn y gystadleuaeth.

Pe bai'r Seintiau yn llwyddo i guro B36 Tórshavn dros y ddau gymal, bydden nhw'n wynebu Videoton FC o Hwngari yn y rownd nesa'.