Cefnogaeth i deuluoedd ymosodiad Tunisia

Tunisia Image copyright PA
Image caption Mae twristiaid wedi bod yn talu teyrnged i'r rhai gafodd eu lladd yn yr ymosodiad

Mae llinell gymorth wedi ei sefydlu ar gyfer teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan yr ymosodiad terfysgol yn Nhunisia ble bu farw 38 o bobl, y rhan helaeth ohonynt o Brydain.

Roedd Trudy Jones, 51 oed o'r Coed Duon yn Sir Caerffili, ymysg y rhai gafodd eu lladd pan wnaeth ddyn arfog saethu twristiaid ar draeth y tu allan i westy yn Sousse ddydd Gwener.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Mae'n ddyletswydd arnom sicrhau ein bod yn barod i gynnig unrhyw gymorth y gallwn wrth ymateb i ganlyniadau'r trychineb hwn."

Mae'r llinell gymorth ar agor 24 awr y dydd trwy ffonio 0800 107 0900 neu decstio 'help' i 81066.

Straeon perthnasol