Naw o gyrff yn cael eu dychwelyd i Brydain

Saliwtio rhes o ambiwlansys yn Nhunis Image copyright PA
Image caption Y cyntaf mewn fflyd o gerbydau yn cyrraedd Maes Awyr Tunis ddydd Iau.

Mae corff y Gymraes Trudy Jones, gafodd ei lladd yn y saethu ar draeth yn Tunisia ddydd Gwener, wedi cael ei gludo'n ôl i Brydain.

Cyrhaeddodd cyrff naw o Brydeinwyr gafodd eu lladd Faes Awyr Brize Norton, Sir Rydychen ddydd Iau am 15:00 ar ôl gadael Tunis am 12:00.

Roedd Trudy Jones, 51 oed o'r Coed Duon yn Sir Caerffili, ymysg y rhai gafodd eu lladd pan wnaeth ddyn arfog ddechrau saethu yn ddirybudd ar dwristiaid.

Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal cyn bod y cyrff yn cael eu rhyddhau i'w teuluoedd.

Terfynol

Yn ôl Ysgrifennydd Tramor Prydain, 30 yw'r ffigwr terfynol ar gyfer nifer y meirw o Brydain.

Mae llinell gymorth wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan yr ymosodiad.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford: "Mae'n ddyletswydd arnom sicrhau ein bod yn barod i gynnig unrhyw gymorth y gallwn wrth ymateb i ganlyniadau'r trychineb hwn."

Mae'r llinell gymorth ar agor ddydd a nos - 0800 107 0900 neu decstio 'help' i 81066.

Image caption Roedd Trudy Jones o'r Coed Duon

Straeon perthnasol