Aled Huw
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cymry Corfu yn trafod tynged yr Ewro

2 Gorffennaf 2015 Diweddarwyd 10:05 BST

Ar ôl methu ad-dalu benthyciad gan gronfa'r IMF, mae prif weinidog Groeg bellach yn ystyried derbyn cytundeb gafodd ei gynnig gan arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd - ond gydag amodau.

Ond fydd 'na ddim trafod cyn y refferendwm ddydd Sul, yn ôl yr Almaen.

Wrth i'r bleidlais ar ddyfodol economaidd y wlad agosáu, mae Groegwyr yn dadlau'n groch dros adael neu aros yn rhan o'r Ewro a'r Undeb Ewropeaidd.

Maen nhw'n gwneud hynny yng nghanol trafferthion bywyd bob dydd.

Bu Aled Huw yn Corfu yn holi'r bobl leol ynghyd â rhai o Gymru sydd wedi ymgartrefu ar yn ynys, Elen Sangez, Lucia Sangez ac Angela Faitas.