Gweinidog am gael 'dadl o ddifri' am ad-drefnu

Leighton Andrews
Image caption Dywedodd Leighton Andrews bod rhai cynghorau eisiau "amddiffyn ymerodraethau"

Mae Leighton Andrews wedi dweud ei fod yn fodlon cael "dadl o ddifri" am y cynlluniau i ad-drefnu awdurdodau lleol Cymru.

Ond fe ddywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus na fyddai'n derbyn dadleuon arweinwyr cynghorau o ddifrif os oedden nhw'n gwrthwynebu datganoli.

Fe awgrymodd bod rhai wedi methu a mabwysiadu syniadau arbed arian o ardaloedd eraill am eu bod eisiau "amddiffyn ymerodraethau".

Mae Mr Andrews wedi cyhoeddi map o ffiniau newydd posib i gynghorau Cymru sy'n cwtogi ar nifer yr awdurdodau o 22 cyngor i wyth neu naw.

Beirniadaeth

Mae'r cynlluniau wedi ennyn beirniadaeth gan ffigyrau amlwg mewn llywodraeth leol, yn cynnwys rhai o garfannau'r blaid Lafur.

Dywedodd Mr Andrews wrth aelodau'r Cynulliad bod anghytuno'n parhau dros gael dau neu dri chyngor yn y gogledd, ac mae gwahaniaethau eglur dros uno Sir Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i ail-greu'r hen Ddyfed.

"Rwy'n gwybod fod beirniadaeth wedi bod o fewn rhai carfannau," meddai wrth aelodau'r Cynulliad.

"Nid wyf am gymryd y feirniadaeth gan ambell i arweinydd llywodraeth leol o ddifrif pan roeddynt yn erbyn datganoli yn y lle cyntaf ac sy'n falch o ymffrostio yn hynny. Ond yn ymarferol rydym yn agored i ddadl ddifrifol iawn am y map hwn."

Image copyright Llywodraeth Cymru
Image caption Map posib ar gyfer cynghorau Cymru, fyddai'n cynnwys wyth sir

Ychwanegodd: "Mae dadleuon am ddigwydd. Ar ddiwedd y dydd mae'n rhaid i mi wneud penderfyniad. Rwyf wedi gwneud fy mhenderfyniad am nawr."

Bydd ymgynghoriad ffurfiol ar fesur drafft i uno cynghorau yn yr hydref, yn ôl y gweinidog.

Dywedodd hefyd na ddylai ei gynlluniau greu mwy o swyddi cyflogedig i gynghorwyr, gan ychwanegu: "Os rhywbeth, fe ddylai hyn arwain at lai o swyddi cyflogedig i gynghorwyr lleol."

Ni fydd unrhyw newidiadau'n cael eu gweithredu cyn Etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016. Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y bydd maniffesto'r blaid Lafur yn ymrwymo i'r newidiadau.

Ond fe ddywedodd Mr Andrews y bydd yn galw ar gynghorau i symud ymlaen a dysgu gan ei gilydd am sut i arbed arian.

Adroddiad

Fe wnaeth adroddiad oedd wedi ei gomisiynu gan gyfrifwyr KPMG ddangos y gallai £151m y flwyddyn gael ei arbed petai cynghorau'n dod yn fwy effeithlon.

Dywedodd Mr Andrews bod "amryw o resymau" pam nad oedd cynghorau'n gwneud mwy i wario ar wasanaethau llinell flaen.

"Rwy'n credu ei fod, yn y pen draw, oherwydd arweinyddiaeth. Rwy'n credu bod 'na elfen mewn rhai ardaloedd o'r awydd i amddiffyn ymerodraethau."

Ychwanegodd y byddai pleidleiswyr yn "ddiamynedd" gyda chynghorau sydd ddim yn ymateb.