Pleidlais atal i ASau yn Lloegr

Senedd

Bydd llywodraeth San Steffan yn rhoi pleidlais atal i Aelodau Seneddol Saesneg o etholaethau yn Lloegr dros ddeddfau sy'n effeithio ar Loegr yn unig.

Dywedodd arweinydd Tŷ'r Cyffredin Chris Grayling y byddai'r newidiadau, fydd hefyd yn cael eu defnyddio gan ASau Cymreig ar brydiau, yn dod â "thegwch gwirioneddol i'n trefniadau cyfansoddiadol".

Bydd aelodau seneddol yn pleidleisio gyda chyfrifiaduron tabled pan fydd y system "mwyafrif dwbl" newydd yn cael ei gweithredu.

"Gwarth"

Dywedodd y blaid Lafur ei fod yn "warth" fod gweinidogion am ruthro i wneud newidiadau "cyfansoddiadol sylweddol".

Yn ôl arweinydd seneddol yr wrthblaid Angela Eagle, fe allai'r cynllun greu dau ddosbarth o ASau, gan gyhuddo'r Ceidwadwyr o ymgais "sinigaidd" i "gynhyrchu mwyafrif llawer mwy" i'r blaid yn y senedd.

O dan y drefn, fe fyddai holl aelodau seneddol yn parhau i bleidleisio ar gamau pwysicaf deddfwriaeth drwy'r senedd.

Ond fe fyddai ASau Saesneg, ac o bryd i gilydd rhai Saesneg a Chymraeg, yn cael pleidlais atal yn San Steffan pan yn dadlau ar faterion sydd wedi eu datganoli i'r llywodraethau datganoledig.

Image caption Dywedodd Angela Eagle fod y cynllun wedi ei greu "ar gefn paced o sigarets"

Bydd ASau yn trafod y newidiadau ar 15 Gorffennaf, dywedodd Mr Grayling.

Bydd newidiadau'n cael eu gwneud i'r rheolau sydd yn penderfynu sut mae'r senedd yn gweithredu.

Gyda mwy o rymoedd wedi eu datganoli i senedd yr Alban yn dilyn y bleidlais dros annibyniaeth ym mis Medi'r llynedd, mae ASau Ceidwadol o'r farn nad yw'n iawn i ASau sy'n cynrychioli etholaethau yn yr Alban i benderfynu ar ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar Loegr yn unig.

Dywedodd Mr Grayling fod ASau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael "llais cryfach" ac felly roedd "ond yn deg" fod yr un peth yn digwydd i ASau Lloegr.

Ychwanegodd y bydd llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn derbyn ceisiadau i benderfynu pa ran o ba ddeddfwriaethau sy'n berthnasol i Loegr neu Lloegr a Chymru, meddai, gyda cham newydd yn cael ei ychwanegu cyn i ddeddfwriaeth ddrafft gyrraedd y trydydd darlleniad.

"Gwyntyllu fflamau cenedlaetholdeb"

Dywedodd Owen Smith AS, llefarydd yr wrthblaid ar Gymru: "Nid yw'r cynlluniau hyn yn gynnig gonest i ateb y cwestiwn Saesnig, ond yn hytrach ymgais i wyntyllu fflamau cenedlaetholdeb a sicrhau mantais wleidyddol i'r Ceidwadwyr.

"Effaith y newidiadau fydd i greu Senedd Saesneg o fewn senedd Prydain, gan osod seiliau i wrthdaro cyfansoddiadol pendant rhwng ASau Saesneg ac ASau eraill rhyw ben yn y dyfodol.

"Mae'n dod yn fwyfwy amlwg fod y Ceidwadwyr wedi rhoi'r gorau i'r ddelfryd o'r undeb a nawr yn canolbwyntio'n unig ar gryfhau eu mantais etholiadol yn Lloegr, hyd yn oed os yw hyn yn golygu chwalu'r DU yn y broses.

"Mae ceisio gwasgu cyfyngiadau mor bellgyrhaeddol mewn dwy wythnos, gyda dim cyfle i archwilio neu ymgynghori yn ddim byd llai na scandal ac yn atgoffa pobl o hunan-fudd anhrugarog y blaid fydd yn nodweddiadol o weithredoedd y llywodraeth fwyafrifol Geidwadol yma."

Image caption Owen Smith