Cyhuddiad rhyw yn erbyn cyn chwaraewr y Crysau Duon

Mils Muliaina Image copyright Getty Images
Image caption Mils Muliaina

Mae cyn chwaraewr y Crysau Duon Mils Muliaina wedi cael ei gyhuddo o drosedd rhyw yng Nghymru.

Honnir bod Mils Muliaina wedi ymosod ar ddynes yn ardal Brewery Quarter Caerdydd ar 6 Mawrth.

Cafodd ei arestio yn Stadiwm Kingsholm gan Heddlu Sir Gaerloyw ym mis Ebrill, ac yna ei holi gan Heddlu De Cymru.

Fe fydd yr olwr 34 oed, sydd nawr yn chwarae i Connacht yn Iwerddon, yn ymddangos gerbron Ynadon Caerdydd ar 7 Awst.

Mae o wedi chwarae 100 o weithiau i'r Crysau Duon dros gyfnod o naw mlynedd.